Mater - cyfarfodydd
Communal Heating Charges 2021/22
Cyfarfod: 13/07/2021 - Cabinet (eitem 27)
27 Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2021/22 PDF 113 KB
Pwrpas: Argymell y ffioedd gwresogi arfaethedig yn eiddo’r cyngor gyda systemau gwresogi ardaloedd cymunedol ar gyfer 2021/22 cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd bod y portffolio'n gweithredu wyth cynllun gwresogi cymunol yn Sir y Fflint. Mae’r Cyngor yn trafod prisiau tanwydd ymlaen llaw ac mae tenantiaid yn elwa o gyfradd Contract Diwydiannol a Masnachol y Cyngor.
Roedd y ffioedd gwresogi cymunol newydd yn seiliedig ar ddefnydd ynni'r flwyddyn flaenorol gan sicrhau asesiad cywir o gostau ac effeithiau (negyddol a chadarnhaol) ar y gronfa wresogi wrth gefn.
Roedd y taliadau arfaethedig i'w hailgodi yn 2021/22 wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r pris i denantiaid wedi gostwng ar gyfer 2021/22 sydd, fel mewn blynyddoedd eraill, yn caniatáu i Sir y Fflint adennill costau disgwyliedig o ffioedd gwresogi gan barhau i drosglwyddo manteision costau ynni is i denantiaid.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r newidiadau i’r ffioedd gwresogi cyfredol yn adeiladau'r Cyngor sydd â systemau gwresogi cymudol a fydd yn dod i rym ar 30 Awst.