Mater - cyfarfodydd

Care Inspectorate Wales – Assurance Visit Outcomes

Cyfarfod: 13/07/2021 - Cabinet (eitem 16)

16 Arolygiaeth Gofal Cymru – Canlyniadau Ymweliad Sicrwydd pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:        Nodi canlyniad Ymweliad Sicrwydd Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) a chymeradwyo'r ymateb a'r cynllun gweithredu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad gan egluro mai Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yw rheolydd annibynnol Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yng Nghymru. Maent yn rheoleiddio gofal cymdeithasol a gwasanaethau’r blynyddoedd cynnar gan ddefnyddio’r rheoliadau a’r safonau gofynnol cenedlaethol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Roedd yr adroddiad yn cyflwyno casgliadau’r Gwiriad Sicrwydd o Wasanaethau Gofal Cymdeithasol Sir y Fflint yr oedd AGC wedi’i gynnal yn ddiweddar ac yn nodi'r ymateb gweithredol a'r cynllun gweithredu ar gyfer y meysydd i’w gwella a ddynodwyd yn eu llythyr.

 

Cynhaliwyd y Gwiriad Sicrwydd rhwng 19 a 23 Ebrill gydag wyth Arolygwr yn cyfarfod unigolion, teuluoedd, ymarferwyr, rheolwyr ac asiantaethau partner , cyfarfodydd gydag unigolion, teuluoedd, ymarferwyr, rheolwyr ac asiantaethau partner. 
Roedd prif drywyddon ymchwilio AGC yn canolbwyntio ar bedair egwyddor Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014, sef:

 

·         Pobl – Llais a Rheolaeth

·         Atal

·         Lles

·         Partneriaeth ac Integreiddio

 

Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu adborth AGC bod llawer o gryfderau yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint ac roedd yr arolygwyr ‘yn dawel eu meddwl’ bod Sir y Fflint yn diwallu ei swyddogaethau statudol i gadw pobl yn ddiogel ac i hyrwyddo eu lles yn ystod y pandemig, a bod y Cyngor yn llwyddo i atal plant rhag gorfod mynd i mewn i ofal, a bod plant a phobl ifanc yn mynd yn ôl at eu teuluoedd os oedd hynny'n briodol.

 

Roedd y llythyr hefyd yn dynodi meysydd i’w gwella yn cynnwys rhoi rhagor o ystyriaeth i werth eiriolwyr annibynnol i gefnogi plant a phobl ifanc. Nodwyd fel maes i’w wella hefyd yr angen i ofalu bod digon o dystiolaeth o ddadansoddi angen a gwneud penderfyniadau yng nghofnodion gofal y Gwasanaethau Plant.

 

Canmolodd yr Aelodau’r Adroddiad Blynyddol a diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bithell sut y cynigir gwasanaeth eiriolaeth annibynnol i bobl ifanc. Eglurodd yr Uwch Reolwr – Plant a’r Gweithlu bod ar y Cyngor ddyletswydd i wneud ‘cynnig gweithredol’ ar bwyntiau allweddol fel bod pobl ifanc yn ymwybodol o’u hawl i gael eiriolwr a beth y mae hynny'n ei olygu.  Codwyd hyn hefyd yn ystod adolygiad pob unigolyn ifanc. Ychwanegodd bod Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi nodi bod staff yn dda ac yn rhagweithiol o ran siarad dros plant. Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan y Cynghorydd Bithell am recriwtio, eglurodd yr Uwch Reolwr - Plant a'r Gweithlu mai Glynd?r yw Prifysgol gysylltiol y Cyngor er bod graddedigion o brifysgolion eraill wedi'u recriwtio yn y gorffennol hefyd.

                       

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r ymateb gweithredol a'r cynllun gweithredu.