Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking

Cyfarfod: 20/01/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 56)

56 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol cyfredol gan nodi y byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn y flwyddyn ddinesig newydd ar 9 Mehefin 2022 ac y byddai’r eitemau rheolaidd yn cael eu hystyried yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol unwaith bydd y dyddiadau Pwyllgor newydd wedi’u cytuno arnynt. 

                       

            Dywedodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd bod y rhan fwyaf o’r eitemau ar yr adroddiad olrhain camau gweithredu wedi’u cwblhau ar wahân i’r eitem ar ddigwyddiadau ymgysylltu gofal sylfaenol a oedd yn parhau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn ystyried y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft a chymeradwyo/newid fel bo’r angen;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.