Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking (S & H)

Cyfarfod: 09/09/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 28)

28 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol.   Dywedodd y byddai yna gyfarfod Arbennig ar 30 Medi am 11.00am i ystyried y Gyllideb am y flwyddyn i ddod ac ei bod yn bosibl y byddai Adroddiad Perfformiad Canol Blwyddyn yn cael ei ychwanegu at y cyfarfod ar 9 Rhagfyr gyda phosibilrwydd bod rhai o’r eitemau yn cael eu symud i gyfarfod mis Ionawr. 

 

                        Mewn ymateb i’r cwestiwn, cododd y Cadeirydd fater yngl?n â thrafod effaith ariannol Covid ar y gyllideb, awgrymodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod diweddariad ar lafar byr yn gallu cael ei roi yng nghyfarfod y Gyllideb ar 30 Medi ond nodwyd na fyddai’n adroddiad llawn.    Byddai trafodaeth wedi ei rhaglennu yn cael ei chynnal yn hwyrach yn y flwyddyn y cytunodd y Cadeirydd arno ond pwysleisiodd yr angen i fod yn ymwybodol o effaith Covid ar y Sector Preifat. 

 

                        Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Marion Bateman, rhannodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) gyda’r Pwyllgor yr hyn yr oedd wedi’i ddysgu o gyfarfod cynt y diwrnod hwnnw gyda’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Llywodraeth Cymru (LlC).  Dywedodd y byddai yna ganlyniad i Lywodraeth Cymru o ganlyniad i’r cyllid y cytunwyd arno yn y Senedd gyda’r cynnydd mewn Yswiriant Gwladol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  Dywedodd mae’n bosibl na fyddai’r sefyllfa’n glir erbyn 30 Medi gan fod gan Lywodraeth Cymru hyblygrwydd a byddai’n cymryd amser i benderfynu sut yr oedd yn cael ei ddyrannu o fewn Cymru.

 

            Cyfeiriodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd at adroddiad olrhain camau a hysbysodd Aelodau bod ymateb camau yn weddill gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a Llywodraeth Cymru yn faterion oedd yn weddill.    Dywedodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Cymuned ac Addysg y cysylltwyd â’r ddau a derbyniwyd ymateb eu bod yn gweithio ar y mater gan Lywodraeth Cymru y byddant yn ymateb.    Byddai’r Pwyllgor yn derbyn diweddariad unwaith y derbyniwyd ymatebion.

           

Dywedodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu bod y rhan fwyaf o’r materion a drafodwyd gyda’r Swyddog Cyswllt dros yr haf drwy’r Gr?p Lleisiau Uchel Pobl Ifanc yn faterion yr oedd Plant yn teimlo oedd yn bwysig a rhannwyd fel mater o drefn rhwng Gweithwyr Cymdeithasol presennol a newydd fel rhan o drosglwyddiadau.   Eglurodd y byddai adborth yn cael ei roi yn y Fforwm Gwasanaethau Plant nesaf. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Cunningham at y daith o amgylch canol trefi a awgrymodd Marion Bateman yn y cyfarfod diwethaf a gofynnodd a oedd unrhyw beth wedi’i wneud.    Roedd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd wedi cadarnhau ei bod wedi cysylltu a’r Ymgynghorydd Polisi Strategol a byddai ymweliadau safle yn cael eu trefnu pan fyddai’r sefyllfa’n gwella.

 

Hefyd gofynnodd y Cynghorydd Cunnigham a oedd yn bosibl cymryd i ystyriaeth torri’r gwrychoedd ar hyd y llwybr troed o gylchfan yr A55 ym Mrychdyn i’r gylchfan ger y maes awyr gan y byddai pobl mewn cadeiriau olwyn yn ei chael hi’n anodd  ...  view the full Cofnodion text for item 28