Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Action Tracking (Env &E )
Cyfarfod: 08/02/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 63)
63 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB
Pwrpas: I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Draft Forward Work Programme, eitem 63 PDF 64 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Environment & Economy OSC, eitem 63 PDF 48 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a Olrhain Gweithred
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Mae’r cyfarfod am 10.00 am ar 8 Mawrth wedi’i newid i Sesiwn Friffio ar y System Hyblyg. Bydd cyfarfodydd nesaf y Pwyllgor ar 7 Mehefin a 5 Gorffennaf.
Gan symud ymlaen at yr adroddiad ar olrhain camau gweithredu, darparodd yr Hwylusydd y wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu a chadarnhaodd y byddai’r eitem ar Farchnadoedd Canol Tref y Fflint a Bwcle yn aros ar yr Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu. Cytunodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd i siarad efo’r Cynghorydd Thomas ar ôl y cyfarfod yngl?n â’i bryderon am yr adolygiad o drefniadau torri gwair.
Gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson a oes modd cynnwys eitem ar farciau strydoedd. Awgrymodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) ei fod yn siarad efo’r Cynghorydd Hutchinson ar ôl y cyfarfod i drafod y lleoliadau sy’n achosi problemau. Eiliodd y Cynghorydd Hardcastle gais y Cynghorydd Hutchinson i gynnwys hyn ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton ac Owen Thomas.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd;
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud gyda’r camau gweithredu sy’n weddill.