Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Action Tracking (Env &E )
Cyfarfod: 12/10/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 27)
27 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB
I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Forward Work Programme and Action Tracking (Env &E ), eitem 27 PDF 68 KB
- Enc. 2 for Forward Work Programme and Action Tracking (Env &E ), eitem 27 PDF 36 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol. Tynnodd sylw at yr eitemau a drefnwyd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd, a chynghorodd y byddai'r eitem ar Fapiau Rhwydwaith Integredig yn cael ei gohirio tan y cyfarfod i'w gynnal ar 7 Rhagfyr 2021. Yn ychwanegol at yr eitemau a restrwyd i’w hystyried yn y cyfarfod nesaf, byddai dwy eitem ychwanegol ar Ddyffryn Maes Glas a Chanol Trefi yn cael eu cynnwys ar yr agenda. Gofynnodd yr Hwylusydd i'r Aelodau gysylltu â hi os oedd ganddynt unrhyw awgrymiadau ar gyfer eitemau pellach i'w cynnwys ar y Rhaglen.
Cyfeiriodd yr Hwylusydd at y camau a ddeilliodd o gyfarfodydd blaenorol ac eglurodd y byddai cynnydd ar gamau gweithredu tymor hir yn cael eu monitro a gwybodaeth yn cael ei darparu pan fyddai wedi'i gwblhau.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Joe Johnson a George Hardcastle.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.