Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Meeting Schedule
Cyfarfod: 17/06/2021 - Pwyllgor Adfer (eitem 10)
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a'r Rhestr o Gyfarfodydd (ar lafar)
Pwrpas: Gosod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar gyfer y Pwyllgor Adfer, gan gynnwys dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Yr eitemau ar gyfer y ddau gyfarfod nesaf oedd:
15 Gorffennaf
· Crynodeb o Gynlluniau Busnes Adfer ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg ac Ieuenctid; a
· Rheolwr Mentergarwch ac Adfywio i gyflwyno gwaith Gr?p Tactegol i gefnogi canol trefi.
5 Awst
· Crynodeb o Gynlluniau Busnes Adfer ar gyfer Gwasanaethau Stryd a Chludiant a Thai ac Asedau; a
· Rheolwr Budd-daliadau i roi cyflwyniad am waith Gr?p Tactegol Adferiad Tlodi a Phobl Ddiamddiffyn.
Yn ychwanegol, bydd y Gofrestr Risgiau Corfforaethol diweddaraf llawn yn cael ei rannu yn un o’r cyfarfodydd, ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa’n lleol. Byddai dyddiadau’r cyfarfodydd a sleidiau’r cyflwyniad yn cael eu dosbarthu i’r Pwyllgor.
Cafodd hyn ei gynnig gan y Cadeirydd a’i eilio gan y Cynghorydd Hilary McGuill.
PENDERFYNWYD:
Bod yr eitemau ar yr agenda ar gyfer mis Gorffennaf ac Awst yn cael eu cytuno fel y trafodwyd.