Mater - cyfarfodydd
Regional Recovery Coordinating Group Terms of Reference and Work Programme
Cyfarfod: 17/06/2021 - Pwyllgor Adfer (eitem 9)
9 Cylch Gorchwyl a Rhaglen Waith y Grwpr Cydlynu Adferiad Rhanbarthol PDF 81 KB
Pwrpas: Derbyn gwybodaeth am y Grwp Gydlynu’r Adferiad Rhanbarthol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Recovery Coordinating Group Terms of Reference, eitem 9 PDF 139 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cylch Gorchwyl a Rhaglen Waith y Grwpr Cydlynu Adferiad Rhanbarthol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad am y Gr?p Cydlynu Adferiad sydd yn cynnwys partneriaid aml asiantaeth strategol er mwyn cydlynu a gweithredu strategaeth adferiad rhanbarthol. Fel Cadeirydd y Gr?p Cydlynu Adferiad, roedd y cyflwyniad yn sôn am y canlynol:
· Amcanion Strategol fel Cyngor Partner
· Gwyliadwriaeth, Amddiffyniad a Gorfodaeth Leol
· Gwasanaeth Olrhain a Diogelu
· Y Rhaglen Frechu
· Profi
Rhoddodd y Cadeirydd deyrnged i bob swyddog oedd yn ymwneud â’r ymateb i’r argyfwng. Cafodd ei sylwadau eu heilio gan y Cynghorydd Ian Roberts ac Aelodau o’r Pwyllgor.
Fe atebodd y Prif Weithredwr gwestiynau am brofion llif unffordd, brechiadau lleol a chyfrifoldebau hunan-ynysu. Fe aeth ymlaen i roi diweddariad am y sefyllfa ddiweddaraf yn lleol ac yn genedlaethol.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Marion Bateman a Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
Nodi Cylch Gorchwyl y Gr?p Cydlynu Adferiad Rhanbarthol.