Mater - cyfarfodydd

Portfolio Recovery Business Plans

Cyfarfod: 17/06/2021 - Pwyllgor Adfer (eitem 7)

7 Cynlluniau Busnes Adfer Portffolios pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Dechrau adolygiad o’r Cynlluniau Busnes Adfer ar gyfer pob un o’r pum portffolio gwasanaeth gan ddechrau gyda’r gwasanaeth Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi fel enghraifft weithredol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) Cynllun Busnes Adfer ar gyfer ei bortffolio i’r Pwyllgor er mwyn adolygu’r fformat a’r cynnwys fel enghraifft weithredol.  Fe dynnodd sylw at feysydd allweddol megis cydnerthedd timau amrywiol oherwydd y galw digyffelyb ar wasanaethau yn ystod y sefyllfa o argyfwng, cyflwyno’r Cynllun Datblygu Lleol a gweithredu system cefn swyddfa. O ran colli incwm, fe ganmolodd y cyllid oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru i’r tîm Cyllid.

 

Fe awgrymodd y Prif Weithredwr ei bod yn bosibl yr hoffai’r Pwyllgor ganolbwyntio ar wasanaethau Gwarchod y Cyhoedd lle bu galw aruthrol ar adnoddau yn ystod yr argyfwng.

 

Dywedodd y Prif Swyddog tra bod adnoddau Iechyd Yr Amgylchedd wedi cael eu cynnal yn Sir y Fflint dros y blynyddoedd, bu galw sylweddol am y gwasanaethau yma. Fe ganmolodd cydnerthedd yn y timau am ddelio â’r heriau yma a thynnodd sylw at y galw cynyddol ar wasanaethau ar gyfer adferiad llifogydd a chanol trefi.

 

Pan ofynnodd y Cadeirydd iddo am gefnogaeth ar gyfer adferiad canol trefi, fe soniodd y Prif Swyddog am y broses recriwtio bresennol a ffrydiau gwaith Gr?p Tactegol sydd wedi’u cynnwys yn yr eitem nesaf ar yr agenda.

 

Tra bod y Cynghorydd Ian Roberts yn cydnabod yr angen i gefnogi canol trefi, dywedodd bod gwasanaethau mewn cymunedau llai yr un mor bwysig i breswylwyr.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Hilary McGuill a David Healey.

 

Cytunwyd y byddai gweddill y Cynlluniau Busnes Adfer Portffolio yn cael eu he-bostio i’r Pwyllgor, a byddai crynodeb o bob un yn cael eu cyflwyno yng nghyfarfodydd mis Gorffennaf ac Awst gyda chyflwyniadau yn tynnu sylw at y prif faterion.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi fformat a chynnwys Cynllun Busnes Adfer Portffolio; a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau gan Gynllun Busnes Adfer Portffolio gwasanaeth Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi, a byddant yn cyfeirio unrhyw waith rheoli risg pellach a phenodol i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu priodol fel y bo angen.