Mater - cyfarfodydd
Corporate Recovery Objectives
Cyfarfod: 17/06/2021 - Pwyllgor Adfer (eitem 5)
5 Amcanion Adfer Corfforaethol PDF 93 KB
Pwrpas: Mabwysiadu set wedi’i diweddaru o Amcanion Adfer Corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr amcanion corfforaethol sydd wedi’u diweddaru ar gyfer ail gam yr adferiad a argymhellwyd i gael eu mabwysiadu. Byddai’r rhain yn destun adolygiad trwy gydol y cyfnod adferiad.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, awgrymodd y Prif Weithredwr bod Crynodeb o Gynlluniau Adfer Busnes ar gyfer Gofal Cymdeithasol ac Addysg yn cael eu hystyried yng nghyfarfod mis Gorffennaf, gyda Gwasanaethau Stryd a Chludiant a Thai ac Asedau’n cael eu rhannu ym mis Awst.
Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Patrick Heesom a’i eilio gan y Cynghorydd Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
Cefnogi a mabwysiadu'r Amcanion Adferiad Corfforaethol.