Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Action Tracking (EY&C)
Cyfarfod: 03/02/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 39)
39 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB
I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Draft Forward Work Programme, eitem 39 PDF 71 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Education Youth & Culture OSC, eitem 39 PDF 70 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ddrafft a chadarnhaodd fod y cyfarfod nesaf ar 24 Mawrth wedi cael ei ganslo. Rhoddodd amlinelliad o’r adroddiadau i’w cyflwyno yn y cyfarfodydd a fyddai’n dilyn yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai. Gan symud ymlaen at yr adroddiad Olrhain Gweithredu, cadarnhaodd fod yr holl gamau gweithredu a oedd yn codi o’r cyfarfod diwethaf fel y’u dangosir yn Atodiad 2 o’r adroddiad, wedi cael eu cwblhau.
Awgrymodd y Cadeirydd y dylai’r Pwyllgor ychwanegu dau adroddiad at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i ymdrin â’r meysydd canlynol: -
- Effaith y pandemig ar sgiliau llythrennedd a rhifedd a’r dulliau o fynd i’r afael â hyn; a’r
- Prinder sgiliau ar draws Gogledd Cymru a’r dulliau o fynd i’r afael â hyn.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y Pwyllgor Adferiad diweddar lle trafodwyd y broblem prinder sgiliau. Rhoddwyd esboniad o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn y sector addysg i hyrwyddo cyfleoedd addysgol/gwaith er mwyn mynd i’r afael â’r prinder sgiliau ar draws Gogledd Cymru. Yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Adferiad, esboniodd yr Hwylusydd fod Mrs. Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi cytuno i ddod i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Adferiad i amlinellu’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol ar gyfer Gogledd Cymru
a’r sector addysg. Awgrymodd y byddai’r cyflwyniad a roddwyd yn y Pwyllgor Adferiad yn darparu gwybodaeth a fyddai’n sail i’r adroddiadau sydd i’w hychwanegu at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.
Diolchodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) i’r Cadeirydd ac awgrymodd y dylid cyflwyno’r ddau adroddiad canlynol gerbron y Pwyllgor: -
1) Adroddiad yn rhoi trosolwg o effaith y pandemig ar sgiliau craidd disgyblion a sut roedd ymyriadau a chynlluniau yn cael eu defnyddio i sicrhau bod dysgwyr yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau.
2) Adroddiad i gysoni’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol a’r Uwch Reolwr ar gyfer Gwella Ysgolion drwy Ddysgu Cymunedol i Oedolion, er mwyn cynorthwyo pobl yn y gymuned i wella eu sgiliau.
Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r awgrymiadau a wnaed gan y Cadeirydd a’r Prif Swyddog.
Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Dave Mackie, a’u heilio gan y Cynghorydd Paul Cunningham.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.
(b) Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei hawdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y cynnydd a wnaed i gwblhau’r camau gweithredu sy’n weddill yn cael ei nodi.