Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyfarfod: 09/12/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 60)
60 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 79 KB
Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Forward Work Programme, eitem 60 PDF 53 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cofnodion:
Wrth gyflwyno’r rhaglen gwaith i’r dyfodol wedi’i diweddaru i’w hystyried, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y byddai diweddariad ar y Strategaeth Pobl yn cael ei ychwanegu at agenda mis Ionawr.
Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom a oedd modd rhannu’r adroddiad ar y Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol, sydd wedi ei restru ar gyfer mis Ionawr â’r Aelodau cyn gynted â’i fod ar gael.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Patrick Heesom a Haydn Bateman.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; fel y’i diwygiwyd yn y cyfarfod; a
(b) Bod yr Hwyluswyr Trosolwg a Chraffu, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, wrth i'r angen godi.