Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Action Tracking (CH & E)
Cyfarfod: 09/02/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 43)
43 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB
Pwrpas: I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Draft Forward Work Programme, eitem 43 PDF 68 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Community Housing & Assets OSC, eitem 43 PDF 60 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol i'w hystyried. Cyfeiriodd at y cyfarfod ym mis Mawrth a gafodd ei ganslo oherwydd yr Etholiadau Llywodraeth Leol a oedd i fod i gael eu cynnal ym mis Mai, 2022. Dywedodd nad oedd unrhyw newidiadau i'r eitemau a ddangoswyd ar gyfer y cyfarfodydd yn y dyfodol a drefnwyd ar gyfer mis Mehefin a mis Gorffennaf, 2022. Mewn perthynas â'r camau gweithredu a ddeilliodd o'r cyfarfod diwethaf, cadarnhaodd yr Hwylusydd eu bod i gyd wedi'u cwblhau, fel y dangosir yn Atodiad 2 yr adroddiad.
Cafodd yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Mared Eastwood a'r Cynghorydd Helen Brown.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei nodi;
(b) Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen;
(c) Bod y cynnydd a wnaed o ran cwblhau'r camau sy'n weddill yn cael ei nodi.