Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Action Tracking (CH & E)
Cyfarfod: 08/12/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 30)
30 Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB
Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Draft Forward Work Programme, eitem 30 PDF 69 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Community Housing & Assets OSC, eitem 30 PDF 50 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol a Olrhain Gweithred
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol i’w hystyried. Cyfeiriodd at y cyfarfod ym mis Ionawr a dweud y byddai Datblygu Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai Sir y Fflint 2022-26 yn cael ei ychwanegu at y rhestr o eitemau i’w hystyried yn y cyfarfod. Dywedodd bod y ddau gam gweithredu yn yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu wedi’u cwblhau.
Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’u heilio gan y Cynghorydd David Wisinger.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.