Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 8)

Cyfarfod: 13/01/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 74)

74 Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 8) pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2021/22 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd ar Fis 8 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw fel yr oedd ym Mis 8 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried.

 

O ran Cronfa’r Cyngor, y sefyllfa diwedd blwyddyn ragamcanol - heb unrhyw gamau gweithredu newydd i leihau pwysau costau ac i wella effeithlonrwydd - oedd gwarged gweithredol o £0.716 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflogau a fyddai’n dod o gronfeydd wrth gefn) a oedd yn adlewyrchu newid ffafriol o £0.061 miliwn o fis 7.     Byddai hyn yn gadael balans y gronfa wrth gefn at raid ar ddiwedd y flwyddyn yn £6.586 miliwn.  Roedd y symudiadau sylweddol o fis 7 fel ag amlinellwyd yn yr adroddiad.   Rhoddwyd diweddariad ar risgiau amrywiol yn cynnwys aros am ganlyniadau dyfarniadau cyflog y NJC (Llyfr Gwyrdd) i gael eu bodloni gan y Gronfa Wrth Gefn At Raid, parhad cyllid grant Gofal Cymdeithasol i 2022/23 a chynnydd yn y galw am Leoliadau y Tu Allan i’r Sir.   Rhoddwyd diweddariad hefyd ar y newidiadau i gymhwyster Cronfa Galedi Llywodraeth Leol sy’n effeithio ar hawliadau hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol pan oedd yn dod i ben.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gorwariant arfaethedig o £0.548 miliwn yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.924 miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellir.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Richard Jones, rhoddwyd eglurhad ar drosglwyddo costau eiddo canolog ar draws yr holl bortffolios i mewn i’r gyllideb Cyllid Canolog a Chorfforaethol.

 

Wrth ddiolch i’r swyddogion, dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson bod lefel y manylder yn yr adroddiad yn dangos rheolaeth ariannol dda.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Richard Lloyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 8), fod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet.