Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 6) and Capital Programme Monitoring 2021/22 (Month 6)

Cyfarfod: 11/11/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 55)

55 Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 6) a Rhaglen Gyfalaf 2021/22 (Mis 6) pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        Pwrpas yr adroddiad hwn yw darparu Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 6) ac Adroddiad Rhaglen Gyfalaf 2021/22 (Mis 6) ac amrywedd sylweddol i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwyr Cyllid Corfforaethol adroddiadau ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ym Mis 6, a sefyllfa’r Rhaglen Gyfalaf 2021/22 ym Mis 6 cyn i’r Cabinet eu hystyried.

 

Monitro’r Gyllideb Refeniw

 

O ran Cronfa’r Cyngor, y sefyllfa diwedd blwyddyn ragamcanol - heb unrhyw gamau gweithredu newydd i leihau pwysau costau ac i wella effeithlonrwydd - oedd gwarged gweithredol o £0.227m (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflogau a fyddai’n dod o gronfeydd wrth gefn) a oedd yn adlewyrchu  newid ffafriol o £0.034m o fis 5.   Byddai hyn yn gadael balans o £6.322 yn y gronfa at raid ar ddiwedd y flwyddyn, sy’n cynnwys dyraniadau a gytunwyd eisoes o gronfeydd wedi’u neilltuo. Roedd diweddariad ar risgiau yn y flwyddyn yn cynnwys lefelau casglu Treth y Cyngor, y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor a'r sefyllfa ddiweddaraf ar ddyfarniadau cyflogau. Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o gyllid grant Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ychwanegol ar draws Cymru, bydd y cynnydd o £1.7m i £2.8m yn  nyraniad y Cyngor drwy’r Gronfa Adfer Gofal Cymdeithasol yn cael ei adlewyrchu yn adroddiadau'r dyfodol.   Rhoddwyd gwybodaeth am y broses o wneud hawliadau am gyllid brys ac roedd swyddogion wrthi'n asesu effaith y newidiadau i’r arweiniad ar y Gronfa Galedi.

 

Yn y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gorwariant arfaethedig o £0.755m yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.717m, a oedd yn uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellir.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones ei fod yn cydnabod yr holl waith a oedd wedi'i wneud ar draws y Cyngor ers mis 4 i wella'r sefyllfa diwedd blwyddyn ragamcanol. O ran y gorwariant ar Leoliadau y Tu Allan i'r Sir, roedd yn croesawu cyfraniadau gan y Gronfa Adfer Gofal Cymdeithasol a holodd ynghylch opsiynau eraill i liniaru’r risg parhaus hwn. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai'r cynnydd yn nyraniad cyllid grant Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn cael ei asesu er mwyn dynodi'r defnydd gorau ohono.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod y Rhaglen Gyfalaf yn ceisio darparu capasiti yn y sir er mwyn lleihau cost lleoliadau y tu llan i’r sir.

 

O ran asesu effaith y newidiadau i feini prawf y Gronfa Galedi, roedd swyddogion yn gweithio gyda phortffolios i ddynodi mesurau lliniaru ble bynnag bosibl cyn i'r gronfa ddod i ben ddiwedd y flwyddyn.  Y risg pennaf ar hyn o bryd oedd gweithwyr i lenwi dros staff sydd i ffwrdd oherwydd Covid a byddai'r cyllid grant hwn yn parhau hyd ddiwedd mis Rhagfyr pan fydd yn cael ei adolygu.  Byddai'n rhaid ariannu unrhyw hawliadau anghymwys nad oes modd eu lliniaru o weddill y swm o neilltuwyd ar gyfer sefyllfaoedd Covid-19 brys.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wybodaeth ar newidiadau i broffil taliadau Treth y Cyngor.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Jones a’i eilio gan y  Cynghorydd Woolley.

 

Rhaglen Gyfalaf

 

Roedd y sefyllfa gryno ym mis 6 yn dangos cyllideb ddiwygiedig o £74.962m gan ystyried y symiau dwyn ymlaen cytunedig, newidiadau yn ystod y  ...  view the full Cofnodion text for item 55