Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 5)

Cyfarfod: 14/10/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 45)

45 Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 5) pdf icon PDF 77 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2021/22 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd ar Fis 5 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad am sefyllfa Mis 5 2021/22 ar gyfer Monitro Cyllideb Refeniw cyn i’r Cabinet ei ystyried. Roedd yn cynnwys canlyniad adolygiad o gronfeydd wrth gefn a balansau gwasanaeth y gofynnwyd amdanynt gan y pwyllgor ym mis Gorffennaf.

 

O ran Cronfa’r Cyngor, dywedodd y Rheolwr Cyllid bod y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn - heb unrhyw gamau gweithredu newydd i leihau pwysau costau a/neu wella’r elw o gynllunio effeithlonrwydd a rheoli cost - yn warged gweithredol o £0.182 miliwn (heb gynnwys effaith dyfarniad tâl i gael ei dalu o gronfeydd wrth gefn), gan adael balans cronfa wrth gefn a ragwelwyd o £5.875 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn. Roedd y symudiad ffafriol yma yn bennaf oherwydd dyraniad cyllid Grant Adferiad Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru yng Ngofal Cymdeithasol  Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir.

 

Ymysg y risgiau yn ystod y flwyddyn, roedd yna welliant yn lefelau casglu Treth y Cyngor ac roedd y galw am y Cynllun Lleihau Treth y Cyngor yn cael ei fonitro wrth i ddiwedd y cynllun ffyrlo agosáu.

 

Rhoddwyd diweddariad am gyflawni arbedion a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn, cronfeydd wrth gefn sydd wedi’u neilltuo a heb eu neilltuo, ynghyd â sefyllfa ariannu mewn argyfwng oedd yn adnabod peryglon yn sgil newidiadau i feini prawf cymhwyso. Mae’r adolygiad parhaus o gronfeydd wrth gefn a balansau gwasanaeth wedi nodi £0.585m a fydd yn cael ei argymell i’w ryddhau yn ôl mewn i’r Gronfa Arian at Raid.

 

Yn y Cyfrif Refeniw Tai, roedd gorwariant arfaethedig o £0.633m yn gadael balans terfynol heb ei neilltuo yn £3.839m, a oedd yn uwch na’r canllawiau argymelledig ar wariant.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton am effaith costau chwyddiannol a newidiadau i’r Credyd Cynhwysol ar sefyllfa ddigartrefedd. Dywedodd y Rheolwr Cyllid bod y Grant Cymorth Tai ymysg y rhai oedd yn destun newidiadau mewn cymhwysedd ac fe wneir y mwyaf ohono i gefnogi unigolion.

 

Dywedodd y Prif Swyddogion (Tai ac Asedau) bod y pwysau amrywiol ar y sefyllfa ddigartrefedd yn cael ei fonitro’n agos gan y rhagwelir rhagor o alw am y gwasanaeth. Roedd y newyddion diweddaraf yn cael ei adrodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau, Tai ac Asedau yn rheolaidd.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Richard Jones, dywedodd y Prif Weithredwr bod rheolau pellter yn dod i ben yn raddol yn unol ag asesiadau risg ac mewn ymgynghoriad gydag Undebau Llafur, ac y byddai nifer o wasanaethau yn mynd i gostau rheolaidd ar ôl i’r Gronfa Galedi ddod i ben. O ran y risg gyda’r dyfarniadau tâl, cafwyd eglurhad tra bod dyfarniad tâl athrawon yn ystod y flwyddyn wedi’i setlo, roedd trafodaethau ar gyfer tâl y rhai nad oedd yn athrawon ar draws y DU yn parhau ar agor a’u bod y tu hwnt i reolaeth y Cyngor.

 

Gan ymateb i’r cwestiynau, fe atgoffodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr Aelodau am y sefyllfa ddiweddar ar ddyfarniadau tâl – cafwyd adroddiad ar lafar yn yr eitem flaenorol – byddai’n cael ei ddiweddaru ar gyfer yr adroddiad  ...  view the full Cofnodion text for item 45