Mater - cyfarfodydd
Joint funded care packages
Cyfarfod: 01/07/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 21)
21 Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd PDF 99 KB
Pwrpas: Ystyried goblygiadau cyfraniad llai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) tuag at becynnau gofal a ariennir ar y cyd.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - CHC National Framework for implementation in Wales, eitem 21 PDF 782 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd
Cofnodion:
Roedd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu wedi cyflwyno’r adroddiad yn amlinellu sut yr oedd y cyllid wedi’i rannu a’r gwaith a wnaed i gefnogi Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd.
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Ellis, dywedodd yr Uwch Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion nad oedd unrhyw un yn aros yn yr ysbyty am becyn gofal oni bai eu bod angen triniaeth. O ran unrhyw anghydfod Gofal Iechyd Parhaus (GIP) neu gytundebau cyllid o fewn y Fframwaith 2014, roedd yn ddyledus ar y Gwasanaethau Cymdeithasol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gytuno ar leoliad neu ofal a chefnogaeth gartref cyn i’r broses anghydfod ddechrau ond nid oedd yr unigolyn yn aros yn yr ysbyty. Roedd Cyllid Gofal Iechyd Parhaus yn berthnasol ar draws y bwrdd ac er bod Gwasanaethau Oedolion yn eithaf llwyddiannus gyda chyllid, roedd Gwasanaethau Plant yn her barhaus. Roedd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu wedi cynghori bod yna 153 o achosion ar hyn o bryd ac anfonebau hwyr gyda 50 dros 60 diwrnod yn hwyr.
Cynigiodd y Cynghorydd Cunningham yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Lowe.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cael sicrwydd o’r dull rheoli cyllideb cadarn a rhagweithiol a gymerir gan Gyngor Sir y Fflint i sicrhau bod pecynnau gofal a ariennir ar y cyd yn cael eu rheoli’n dda yn ariannol; a
(b) Bod y cynllun i gyflwyno swydd Swyddog Monitro GIP, yn cael ei gefnogi gan gyllid ‘Buddsoddi i Arbed’ yn cael ei nodi.