Mater - cyfarfodydd
Annual Review of Fees and Charges 2021
Cyfarfod: 13/07/2021 - Cabinet (eitem 23)
23 Adolygiad Blynyddol o Ffioedd a Thaliadau 2021 PDF 102 KB
Pwrpas: Cyflwyno'r adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau ar gyfer 2021, gan gynnwys rhestr wedi’i diweddaru o ffioedd a thaliadau.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix A - 2021 Schedule of Fees and Charges, eitem 23 PDF 477 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adolygiad Blynyddol o Ffioedd a Thaliadau 2021
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a dywedodd bod yr adolygiad o ffioedd a thaliadau 2021 wedi’i gwblhau yn unol â Pholisi Cynhyrchu Incwm y Cyngor sy’n nodi'r rhesymeg a'r broses ar gyfer adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau. Roedd canlyniad yr adolygiad hwnnw i’w weld yn yr atodiad i'r adroddiad.
Roedd yr adroddiad yn amlinellu gofynion yr adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau ar gyfer 2022, yn enwedig y ffioedd a'r taliadau hynny sy’n destun cynnydd chwyddiannol bob tair blynedd.
Dywedodd y Rheolwr Cynhyrchu Incwm a Marchnata bod llawer o’r gwasanaethau y codir tâl amdanynt, a'r rhesymeg, wedi'u cynnwys yn y Polisi Cynhyrchu Incwm, gan egluro nad oedd rhai ohonynt ar ddisgresiwn y Cyngor oherwydd eu bod yn statudol. Byddai fersiwn hawdd i gwsmeriaid ei ddefnyddio o'r rhestr ffioedd a thaliadau ar gael a fyddai'n amlinellu amlder taliadau (unwaith yn unig, wythnosol, misol ac ati).
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r rhestr o ffioedd a thaliadau sydd i’w gweld yn Atodiad A i’w rhoi ar waith ar 1 Hydref 2021.
(b) Bod fersiwn hawdd ei ddefnyddio o’r amserlen ffioedd a thaliadau’n cael ei gynhyrchu a’i gyhoeddi.
(c) Bod gofynion yr adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau ar gyfer 2022 yn cael eu nodi, a manylion am y graddau y gwireddwyd y gofynion hynny'n cael eu cynnwys mewn adroddiad i’r Cabinet ar gyflawniad y gofynion hynny ym mis Gorffennaf 2022.