Mater - cyfarfodydd

Investment and Funding Update

Cyfarfod: 09/06/2021 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 9)

9 Diweddariad ar Fuddsoddi ac Ariannu pdf icon PDF 123 KB

Darparu diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd Mrs Fielder y pwyntiau allweddol canlynol ar yr eitem hon ar y rhaglen:

 

-       Mae tudalennau 187 a 188 yn amlygu cerrig milltir allweddol y Gronfa a’r lefelau ariannu hanesyddol ers 1989.

-       Gwnaeth y Gronfa dri buddsoddiad newydd yn y portffolio Marchnadoedd Preifat, yn unol â gofynion y Gronfa ar gyfer marchnadoedd preifat cynaliadwy.

-       O fewn buddsoddiadau effaith a lleol, y ddwy gronfa a gytunwyd arnynt oedd Foresight Regional Fund III a Bridges Property Fund V. Mae’r Gronfa wedi buddsoddi yn Bridges Property Fund IV yn y gorffennol.

-       Ar gyfer y portffolio Ecwiti Preifat, cymeradwyodd y Gronfa FSN Fund VI a gafodd ei hargymell gan Mercer.Mae gan y buddsoddiad hwn fanylion ESG rhagorol a nodau cynaliadwy, sy'n beth da ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd.

-       Mae’r dadansoddiad llif arian ar dudalen 184 yn amlinellu fod y cyfraniadau/buddion net wedi aros yn gymharol sefydlog yn ystod 2020/21.Fodd bynnag, mae incwm o farchnadoedd preifat wedi rhagori ar y gostyngiadau, sydd wedi helpu’r Gronfa i symud i sefyllfa lif arian iachach.Felly, gall fod gan y Gronfa fwy o arian i’w ddyrannu i fuddsoddiadau cynaliadwy.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn ystyried ac yn nodi’r adroddiad, yn cynnwys y diweddariad ar gyfer cyfrifoldebau dirprwyedig.