Mater - cyfarfodydd

Governance Update and Consultations

Cyfarfod: 09/06/2021 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 7)

7 Diweddariad Llywodraethu ac Ymgynghoriadau pdf icon PDF 136 KB

Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion yn ymwneud â llywodraethu gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar ôl cyflwyno ymateb y Gronfa i ymgynghoriad y Rheoleiddiwr Pensiynau ar y Cod Ymarfer newydd.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Mewn perthynas ag adran 4.01 yr adroddiad, nododd Mr Latham y risgiau presennol yn ymwneud â’r Gronfa yn ei chyfanrwydd.Ychwanegodd fod un risg goch ar draws y Gronfa, sy'n risg fuddsoddi mewn perthynas â buddsoddi cyfrifol. Wedi dweud hynny, mae gostyngiad wedi bod mewn sawl maes risg sydd, yn ei farn ef, yn beth cadarnhaol iawn o ystyried yr heriau diweddar fel COVID-19.

 

            Dywedodd Mr Latham pa mor bwysig yw hi i aelodau’r Pwyllgor a’r Bwrdd fynd i sesiynau hyfforddiant a chynadleddau ond roedd yn sylweddoli nad yw hyn bob tro yn bosibl ar y funud ac felly holodd am farn y Pwyllgor a'r Bwrdd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ystyried a nodi’r diweddariad.