Mater - cyfarfodydd

Recovery Strategy Update

Cyfarfod: 10/06/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 7)

7 Diweddariad ar y Strategaeth Adfer pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:        Derbyn diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf o safbwynt yr amcanion adfer.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Adfer newydd a sefydlwyd i gydlynu ail gam adfer trwy gyfeirio risgiau a materion at y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol.   Byddai’r gyfres newydd o amcanion adfer corfforaethol yn cael eu hargymell i'r Pwyllgor Adfer i'w mabwysiadu yn eu cyfarfod cyntaf.

 

 Siaradodd y Cynghorydd Richard Jones - a fydd yn cadeirio’r Pwyllgor Adfer - am y cylch gwaith ac aelodaeth drawsbleidiol.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Cynghorwyr Richard Jones a Patrick Heesom.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad ac yn aros am ganllawiau gan y Pwyllgor Adfer ar y risgiau a’r materion i'w hadolygu’n fanylach o fewn ei Gylch Gorchwyl fel rhan o’r rhaglen gwaith i’r dyfodol.