Mater - cyfarfodydd
End of Year Performance Monitoring
Cyfarfod: 15/06/2021 - Cabinet (eitem 5)
5 Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn PDF 113 KB
Pwrpas: Cyflwyno’r Canlyniad Perfformiad ar gyfer 2020/21.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for End of Year Performance Monitoring, eitem 5 PDF 7 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd bod y wybodaeth yn cyflwyno adolygiad blynyddol o berfformiad yn erbyn y mesurau a nodwyd ar gyfer 2020/21.
Roedd yr adroddiad ar gyfer Mesurau Adrodd 2020/21 yn dangos bod 67% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar eu targedau. Yn y meysydd lle gellid mesur perfformiad yn erbyn y llynedd, roedd dirywiad o 52% yn y duedd, gyda 43% o fesurau’n gwella ar berfformiad y llynedd a 5% yn parhau i berfformio’n sefydlog. Roedd yr adroddiad yn un ar sail eithriadau ac yn canolbwyntio ar danberfformio ar y targedau.
Fe eglurodd y Prif Weithredwr bod y Mesurau Adrodd yn cael eu monitro gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol yn ôl y maes blaenoriaeth o ddiddordeb, a chafodd yr adroddiad llawn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol. Roedd pob Pwyllgor yn fodlon gyda’r perfformiad, gan nodi bod modd egluro unrhyw feysydd o danberfformiad gan yr amhariad a achoswyd gan bandemig Covid-19. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ym mis Gorffennaf gan fod angen ei fabwysiadu’n ffurfiol erbyn diwedd mis Hydref.
Canmolodd yr Aelodau berfformiad y gweithwyr yn ystod cyfnod sydd wedi bod, ac sy’n parhau i fod yn gyfnod anodd iawn. Roedd yn dangos gallu’r sefydliad a’i weithwyr.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi ac adolygu perfformiad cyffredinol y dangosyddion o safbwynt y Mesurau Adrodd ar ddiwedd y flwyddyn; a
(b) Bod Aelodau wedi’i sicrhau gan yr eglurhad am yr achosion o danberfformio, a oedd yn bennaf o ganlyniad i amhariad pandemig Covid-19.