Mater - cyfarfodydd
Digital Flintshire
Cyfarfod: 13/07/2021 - Cabinet (eitem 15)
15 Sir y Fflint Digidol PDF 111 KB
Pwrpas: Adolygu a diweddaru Strategaeth Ddigidol bresennol y Cyngor, gan ystyried llwyddiannau, newidiadau a dyheadau.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Digital Flintshire, eitem 15 PDF 2 MB
- Enc. 2 for Digital Flintshire, eitem 15 PDF 203 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Sir y Fflint Digidol
Cofnodion:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Mullin a ddywedodd bod llawer o newidiadau wedi'u gwneud i'r Strategaeth Ddigidol ers ei chymeradwyo bedair blynedd yn ôl, a hynny i raddau helaeth oherwydd bod y Cyngor wedi cyflawni'r amcanion a nodwyd yn y ddogfen. Bu newidiadau hefyd i’r cyd-destun strategol ehangach, megis strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru a helpodd i ddiffinio safonau gofynnol cyffredin ar draws Cymru. Y newidiadau arwyddocaol oedd y rhai a oedd yn angenrheidiol i addasu i'r cyfnod clo a oedd wedi cyflymu'r galw am a darpariaeth gwasanaethau digidol.
Roedd yn awr yn briodol adolygu a diwygio'r strategaeth i adlewyrchu'r ffactorau hyn ac roedd y drafft diwygiedig yn cynnwys dysgu, profiadau, twf ac uchelgais. Roedd hefyd yn cynnwys fel thema ar wahân amcan i helpu i leihau’r allgau y gallai pobl heb y sgiliau, y dyfeisiadau neu'r cysylltedd angenrheidiol i fanteisio ar wasanaethau digidol ei brofi.
Cyfeiriodd y Rheolwr Seilwaith TG at y gweithdai llwyddiannus ar y Strategaeth Ddigidol a gynhaliwyd yn ddiweddar ar gyfer yr aelodau, a dywedodd bod yr adroddiad wedi'i ystyried a’i gefnogi yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.
Ers dechrau’r pandemig Covid-19 roedd nifer y bobl a oedd yn gallu gweithio gartref wedi cynyddu o 800 i dros 1500 mewn 10 diwrnod. Rhoddwyd enghreifftiau o achosion pan oedd y Cyngor wedi ymateb i'r pandemig drwy ddarparu gwaith mewn ffyrdd gwahanol; dwy enghraifft oedd galluogi dysgu o bell drwy ddarparu atebion mynediad o bell ar gyfer ysgolion a chyflenwi dyfeisiadau ac unedau WiFi symudol i ddysgwyr dan anfantais ddigidol ledled Sir y Fflint. Mae enghreifftiau eraill wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt Cwsmeriaid, fel rhan o loywi’r amcanion yn Strategaeth y Cyngor yn dilyn adolygiad Archwilio Cymru, bod gwaith wedi’i wneud i adnabod:
· Galwadau a disgwyliadau defnyddwyr gwasanaethau;
· Meysydd i’w datblygu; a
· Newidiadau i arferion a gweithdrefnau gwaith
Roeddent wedi’u hadolygu yn y Strategaeth ddiwygiedig, ynghyd â’r newidiadau a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Roedd gwaith ar y gweill i sicrhau bod costau cywir wedi’u haseinio i’r prosiectau a’r uchelgeisiau yn y strategaeth. Byddai hynny’n creu cynllun cyllido ac yn sicrhau bod unrhyw fylchau cyllido posibl yn cael eu hadnabod mor fuan â phosibl.
Byddai ymgynghoriad yn digwydd gyda grwpiau defnyddwyr a phreswylwyr drwy gydol yr haf.
Soniodd pob aelod am bwysigrwydd cysylltiadau digidol, yn enwedig ers y pandemig, a oedd wedi arwain at ostyngiadau mewn amseroedd teithio i gyfarfodydd oherwydd eu bod yn cael eu cynnal yn rhithiol, a'r gefnogaeth a roddwyd i breswylwyr, yn enwedig preswylwyr bregus.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, dywedodd y Rheolwr Cyswllt Cwsmeriaid bod Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yn cynnig mynediad at gyfrifiaduron ac iPads ac yn parhau i weithredu'r rheolau pellter cymdeithasol.
Gofynnodd y Cynghorydd Banks gwestiwn am Wasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru o dan ‘Bartneriaeth Ddigidol’. Eglurodd y Rheolwr Seilwaith TG bod hyn yn ymwneud â darn o waith a oedd wedi’i gwblhau lle’r oedd Cyngor Sir y Fflint yn darparu’r seilwaith TG ac yn ail-ffurfweddu ... view the full Cofnodion text for item 15