Mater - cyfarfodydd
Mersey Dee Alliancce (MDA) Economic Stimulus Package
Cyfarfod: 15/06/2021 - Cabinet (eitem 3)
3 Pecyn Ysgogi Economaidd Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy PDF 73 KB
Pwrpas: Ceisio cefnogaeth Pecyn Ysgogi Economaidd Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for MDA Economic Stimulus Package, eitem 3 PDF 2 MB
- Enc. 2 for MDA Economic Stimulus Package, eitem 3 PDF 4 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Pecyn Ysgogi Economaidd Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad, ac eglurodd bod Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy wedi llunio pecyn o flaenoriaethau buddsoddi ar gyfer yr is-ranbarth er mwyn ymateb i effeithiau digynsail pandemig Covid-19, a fyddai gobeithio yn tanio adferiad yr economi. Roedd y pecyn yn cynrychioli cais i Lywodraethau Cymru a’r DU am gyllid i gyflwyno ar bum blaenoriaeth buddsoddi, sef:
· Cadw ein busnesau yn gystadleuol;
· Datgarboneiddio diwydiant;
· Sgiliau ar gyfer y Dyfodol;
· Cysylltu ein rhanbarth; a
· Cysylltedd digidol
Cafodd y blaenoriaethau yma eu llunio yn dilyn cytundeb gyda phob partner yng Nghynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy. Roedd lefel y buddsoddiad y ceisiwyd amdano gyfwerth â £402m, cyfuniad o gyllid cyfalaf a refeniw. Cafodd y pecyn ei lunio rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Mawrth 2021, ac roedd yn destun “lansiad tawel”. Y camau nesaf oedd cynnal lansiad llawn o’r pecyn a fyddai’n cael ei drin gan Gynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy a byddai ymgysylltu’n digwydd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru (LlC) a Llywodraeth y DU am fanylion y pecyn ysgogi economaidd a sut y byddai’n cael ei ddatblygu’n llwyddiannus.
Croesawodd yr aelodau y pecyn ysgogi economaidd a diolchwyd i’r Cynghorydd Butler am ei waith ar y mater.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cyngor yn cefnogi’r pecyn ysgogi economaidd fel partner yng Nghynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy.