Mater - cyfarfodydd

Welsh Housing Quality Standard (WHQS) Update

Cyfarfod: 16/06/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 8)

8 Diweddariad Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) pdf icon PDF 116 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar SATC sy’n benodol i waith amgylcheddol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau adroddiad oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ddarparu Safon Ansawdd Tai Cymru a ddarperir gan y Cyngor drwy ei Raglen Buddsoddi Cyfalaf.  Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar elfennau gwaith allanol y rhaglen ynghyd â chyflawniadau hyd yma a chynnal y safon wrth symud ymlaen.

 

Roedd y rhaglen gwella Ffensio a Garddio wnaeth ddechrau yn 2015 wedi’i datblygu yn rhaglen fwy cynhwysfawr, ar ôl i’r mwyafrif o waith mewnol a gwaith arall gael ei gwblhau i gyrraedd cydymffurfiaeth SATC.  Byddai’r rhaglen yn canolbwyntio yn bennaf ar y ffiniau eiddo yn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn addas ac yn unol â manyleb/gofynion y Cyngor.  Hefyd wedi’i gynnwys fyddai dyraniad llwybrau, gerddi a storio.  Roedd manylion y ffrydiau gwaith wedi eu hamlinellu o fewn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Brian Lloyd, cytunodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau i drafod gyda’r Uwch Dîm Rheoli y posibilrwydd o sesiynau mynd am dro gyda Chynghorwyr yn eu Ward er mwyn i Aelodau ddangos materion sydd yn eu barn nhw angen sylw.

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Ray Hughes yngl?n â ffens a ddisodlwyd yn ei ward, roedd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau wedi cytuno i siarad gyda’r Cynghorydd Hughes yn dilyn y cyfarfod a threfnu ymweliad safle yn ei ward. 

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Ray Hughes a’i eilio gan y Cynghorydd Kevin Rush.   

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf yn ei flwyddyn olaf o fuddsoddiad wrth i’r Cyngor ddechrau’r cyfnod cynnal a chadw o Safonau Ansawdd Tai Cymru.