Mater - cyfarfodydd

Social Media and Internet Safety

Cyfarfod: 01/07/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 10)

10 Y Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch ar y Rhyngrwyd pdf icon PDF 136 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i Aelodau ar bolisi a darpariaeth y Portffolio ar y Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch ar y Rhyngrwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                      Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch-Reolwr Gwella Ysgolion a’r Ymgynghorydd Dysgu (Iechyd, Lles a Diogelu) i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am bolisi Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch ar y Rhyngrwyd y Portffolio, gan ganolbwyntio ar ddiogelwch a lles dysgwyr.Mae technoleg wedi caniatáu i addysg barhau yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, er y manteision, mae ymddygiad a chynnwys niweidiol ar-lein yn gallu rhoi dysgwyr mewn perygl os nad oes strategaethau priodol ar waith.Cadarnhaodd fod yr Awdurdod a'r ysgolion yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif.

 

            Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu (Iechyd, Lles a Diogelu) yr adroddiad a gyflwynwyd i sicrhau’r Pwyllgor bod plant a phobl ifanc yn derbyn cymorth priodol mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol a diogelwch ar y rhyngrwyd. Mae’r adroddiad yn amlygu gwaith yr Awdurdod ynghyd â’r canllawiau cenedlaethol.Mae llwyfannau cyfryngau cymdeithasol wedi galluogi ysgolion a’r Awdurdod i gyfathrebu’n gyflym gyda phlant a rhieni ond mae yna fanteision ac anfanteision, gyda phobl ifanc yn wynebu’r un heriau ag oedolion sy’n defnyddio’r llwyfannau hyn. Mae’r adroddiad yn cynnwys data a chanllawiau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, sydd bellach yn cael eu dilyn yn lleol.Darperir gwybodaeth am y Fframwaith Cymhwysedd Digidol a Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion a chadarnhawyd y bydd yr arolwg nesaf yn cael ei gynnal yn ystod yr hydref.

 

Tynnodd yr Ymgynghorydd Dysgu sylw’r aelodau at y Mesur Diogelwch Ar-lein, y Cynllun Gweithredu, y Canllawiau a’r Cwricwlwm i Gymru.Amlinellwyd gwybodaeth am gylch gwaith Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan ynghyd â’r rhaglen “Getting on Togerther” sy’n edrych ar herio eithafiaeth.I gloi, amlinellodd Fframwaith Arolygu newydd Estyn a dywedodd y bydd prosiect peilot yn dechrau yn ystod gwanwyn 2022.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Mackie yr adroddiad a’r dolenni at ddogfennau ar-lein cysylltiedig.Fel llywodraethwr ysgol, gofynnodd pa gwestiynau y dylai ef fod yn gofyn i’w ysgolion ac a yw ysgolion yn gwybod am yr adroddiad hwn.

 

            Mewn ymateb, eglurodd yr Ymgynghorydd Dysgu fod gan yr Awdurdod ddyletswydd i ddarparu hyfforddiant a chyngor priodol a bod hyn eisoes yn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Portffolio.Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y bydd hyfforddwr sydd wedi darparu hyfforddiant ar gyfer y rhaglen ysgolion yn gallu cynnal sesiwn i lywodraethwyr ysgol a fydd yn cynnwys cwestiynau iddynt ofyn i’w cyrff llywodraethu.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Martin White at bwynt 1.08 lle nodir fod 68 allan o 78 o ysgolion wedi cofrestru ar gyfer 360 Degree Safe Cymru a gofynnodd sut y mae modd annog y 10 ysgol sy’n weddill i gofrestru.Mewn ymateb dywedodd yr Uwch-Reolwr fod hwn yn offeryn pwysig ond bod rhai ysgolion o bosibl yn defnyddio offerynnau eraill sydd ar gael. Fodd bynnag, cytunodd y byddai o fantais petai bob ysgol yn cofrestru. Bydd hyn yn rhywbeth a fydd yn cael ei annog yn y flwyddyn academaidd newydd.

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at y ffigyrau bwlio seiber disgybl i ddisgybl, sydd i lawr i 20% o ddysgwyr yn rhoi gwybod am achosion o’r fath o gymharu â 23% yn 2017 (ond sy’n dal yn uwch na’r  ...  view the full Cofnodion text for item 10