Mater - cyfarfodydd
Communal Heating Charges 2021/22
Cyfarfod: 16/06/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 9)
9 Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2021/22 PDF 115 KB
Pwrpas: Ystyried y ffioedd gwresogi arfaethedig mewn eiddo’r cyngor gyda systemau gwresogi ardaloedd cymunedol ar gyfer 2021/22 cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y ffioedd gwresogi arfaethedig i eiddo’r Cyngor sydd â chynlluniau gwresogi cymunedol a fydd yn dod i rym o 2 Awst 2021.
Mae’r ffioedd arfaethedig ar gyfer 2021/22, wedi’u nodi yn yr adroddiad, yn aros am gymeradwyaeth gan y Cabinet. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r pris i denantiaid wedi gostwng ar gyfer 2021/22 sydd, fel mewn blynyddoedd eraill, yn caniatáu i Sir y Fflint adennill costau disgwyliedig o ffioedd gwresogi gan barhau i drosglwyddo manteision costau ynni is i denantiaid.
Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’i eilio gan y Cynghorydd Ray Hughes.
PENDERFYNWYD:
Bod y newidiadau i’r ffioedd gwresogi cyfredol yn adeiladau'r Cyngor sydd â systemau gwresogi cymunedol fel yr amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu nodi.