Mater - cyfarfodydd
Planning the Agenda for the Liaison on Ethical Issues Meeting
Cyfarfod: 05/07/2021 - Pwyllgor Safonau (eitem 9)
9 Cynllunio Agenda’r cyfarfod Cyswllt ar Faterion Moesegol PDF 93 KB
Cynllunio agenda ar gyfer Cadeirydd cyfarfod y Pwyllgor Safonau gyda Chadeirydd ac Arweinydd y Cyngor ac Arweinwyr Grwpiau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro yr adroddiad ar gyfer cynllunio rhaglen y cyfarfod rhwng Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau, Cadeirydd ac Arweinydd y Cyngor Sir ac Arweinwyr y Grwpiau. Cyflwynwyd yr awgrymiadau canlynol i’w hystyried:
· Canlyniad ymweliadau Aelodau Annibynnol â chyfarfodydd y Cyngor.
· Rhoi dyletswyddau deddfwriaethol newydd ar waith yn 2022. Rhannwyd yn breifat y canllawiau drafft gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yngl?n â’r dyletswyddau hyn (paragraff 15 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd)).
· Cefnogi’r dyletswyddau newydd, yr awgrym y dylai aelodau etholedig sy’n dychwelyd fod yn rhan o’r broses gyflwyno ar gyfer Aelodau newydd, ac y dylid cynnal sesiynau hyfforddiant ar gyfer pob gr?p gwleidyddol, gyda chefnogaeth Arweinwyr y Grwpiau.
Er nad oedd y Pwyllgor wedi derbyn adroddiad yngl?n â chanlyniad yr holl ymweliadau â chyfarfodydd y Cyngor, roedd crynodeb o’r pwyntiau a godwyd wedi eu cynnwys yng nghofnodion cyfarfodydd blaenorol. Nododd y Cadeirydd fod cynnwys nodyn gweithredu ar bob rhaglen ffurfiol yn un o argymhellion yr adborth, ac fod hyn eisoes yn ei le.
Gan ymateb i gwestiwn gan Gill Murgatroyd, cafwyd eglurhad gan y Swyddog Monitro ar oblygiadau o ran adnoddau'r hyfforddiant a awgrymir.
Cynigiodd y Cynghorydd Gladys Healey y dylid derbyn yr argymhellion a gyflwynodd y Swyddog Monitro. Wrth eilio’r cynnig, diolchodd Phillipa Earlam i’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a’r Swyddog Monitro am eu gwaith ar y mater hwn ac am fynychu Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r rhaglen drafft ar gyfer y Cyfarfod Cyswllt Moesegol nesaf; ac
(b) Y dylid cael cymeradwyaeth ar gyfer y rhaglen derfynol gan y Prif Swyddog (Llywodraethu) mewn ymgynghoriad ag aelodau’r cyfarfod.