Mater - cyfarfodydd

Rebalancing Care & Support White Paper

Cyfarfod: 27/05/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 7)

7 Ymgynghoriad Papur Gwyn Llywodraeth Cymru – Ailgydbwyso Gofal a Chymorth pdf icon PDF 121 KB

Roedd y ddogfen ymgynghori yn gofyn am farn am gynigion i gyflwyno deddfwriaeth newydd i wella trefniadau gofal cymdeithasol a chryfhau gweithio mewn partneriaeth i gyflawni’r weledigaeth sydd wedi’i nodi yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i bobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen chymorth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad er mwyn galluogi’r Pwyllgor i ystyried y Papur Gwyn; nodi’r ymateb i’r ymgynghoriad a gyflwynwyd gan Sir y Fflint; a chymeradwyo’r adroddiad. Rhoddodd wybodaeth gefndir a chrynodeb byr o ymateb y Cyngor i’r ymgynghoriad a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

          Rhoddodd y Rheolwr Comisiynu drosolwg o’r Papur Gwyn Ailgydbwyso Gofal a Chymorth a’r achos dros newid. Cyfeiriodd at y prif ystyriaethau y manylir arnynt yn yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor yn cytuno fod angen newid pellach a bod angen ymrwymiad i adnoddau a chyllid ar gyfer strwythurau newydd er mwyn creu effaith ar lefel leol. Cytunodd y Cyngor hefyd fod angen buddsoddiad cynaliadwy mawr mewn gofal cymdeithasol o safbwynt refeniw a chyfalaf, a dywedodd nad oedd y model cyllid presennol yn ddigonol i fynd i’r afael â’r galwadau cynyddol ar ofal cymdeithasol yn y dyfodol. Dywedodd y Rheolwr Comisiynu hefyd fod angen i’r Papur Gwyn ganolbwyntio ar sicrhau fod y gweithlu’n cael ei dalu’n deg drwyddi draw. Dywedodd na fu ateb eto gan Lywodraeth Cymru i ymateb y Cyngor ar y ddogfen ymgynghori.

 

Mynegwyd pryderon gan y Cynghorwyr Dave Mackie a Paul Cunningham am y cynigion yn y Papur Gwyn a phwysleisiwyd yr angen am gyllid ychwanegol ar lefel leol.

 

Cynigiwyd derbyn yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Paul Cunningham ac eiliwyd gan y Cynghorydd Mike Lowe.

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r adroddiad ac yn nodi’r ymateb i’r ymgynghoriad a gyflwynwyd gan Sir y Fflint, fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.