Mater - cyfarfodydd

Arosfa

Cyfarfod: 27/05/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 9)

9 Arosfa pdf icon PDF 98 KB

Darparu manylion y model gwasanaeth newydd a’r gwahaniaeth a fydd yn ei gael i blant a phobl ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion yr adroddiad i roi manylion am y model gwasanaeth newydd. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd y byddai’r gwasanaeth newydd yn cynnig cefnogaeth i bump o blant a’i fod yn rhan o gynllun strategol y Cyngor i leihau dibyniaeth ar leoliadau y tu allan i’r sir. Gwahoddodd yr Aelodau i ymweld â’r cyfleuster i gael gweld y gwaith adnewyddu a wnaed (yn amodol ar ofynion Covid). Gofynnodd yr Uwch Reolwr i’r Rheolwr Gwasanaeth - Anabledd Adferiad a Dilyniant roi gwybodaeth bellach am y model gofal a’r trefniadau rhannu’r gofal yn Arosfa.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am eu trosolwg a dywedwyd fod yr adroddiad yn ysbrydoledig. Dywedodd y Rheolwr Adnoddau Plant fod yr awyrgylch yn y cyfleuster yn gynnes, cartrefol a gofalgar, a bod anghenion y plentyn yn cael y lle blaenaf.

 

Mynegodd y Cynghorydd Dave Mackie ei gefnogaeth i’r gwasanaeth ychwanegol a dywedodd fod y cyfle i leihau dibyniaeth ar wasanaethau drud y tu allan i’r sir i’w groesawu, ynghyd â’r potensial i gael mwy o lefydd i gynnig darpariaeth seibiant i helpu plant a’u teuluoedd yn Sir y Fflint.

 

Cynigiwyd derbyn yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Dave Wisinger ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Jean Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed yn Arosfa, ac yn cefnogi’r cyfle i gynnig cefnogaeth hyblyg ychwanegol i hyd at bump o blant a’u teuluoedd, ar unrhyw un adeg, gyda’r nod o gadw teuluoedd gyda’i gilydd ac yn agos at gartref.