Mater - cyfarfodydd
Update on the Biodiversity Duty
Cyfarfod: 15/06/2021 - Cabinet (eitem 8)
8 Diweddariad ar y Ddyletswydd Bioamrywiaeth PDF 101 KB
Pwrpas: Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar y cynnydd wrth ddarparu’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth Adran 6 hyd yma, cynllun 2020 – 2023 wedi ei ddiweddaru a meysydd allweddol o waith Bioamrywiaeth.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Update on the Biodiversity Duty, eitem 8 PDF 179 KB
- Appendix 2 - Update on the Biodiversity Duty, eitem 8 PDF 3 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Diweddariad ar y Ddyletswydd Bioamrywiaeth
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad oedd yn cynnwys manylion am sut roedd y Cyngor yn gwneud cynnydd wrth gyflawni ei ddyletswydd bioamrywiaeth a chadernid ecosystemau o dan Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Rhoddwyd eglurhad o Gynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth y Cyngor 2020-2023, o’r enw Cefnogi Natur yn Sir y Fflint, ac fe adolygwyd cynnydd y gweithredoedd i gyflawni amcanion, gan dynnu sylw at feysydd allweddol o waith bioamrywiaeth o fewn y Sir.
Dywedodd Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) bod hwn yn enghraifft dda o beth y gellir ei gyflawni, gan sôn am geisiadau grant llwyddiannus oedd wedi cael eu dyfarnu. Cafodd ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi yr wythnos flaenorol pan gafodd ei gefnogi’n llawn.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r Cyngor yn rhoi cyngor i breswylwyr ynghylch cael gwared ar Glymog Japan, ond ni fyddai’n gorfodi pobl i gael gwared arno.
PENDERFYNWYD:
Bod Aelodau yn cydnabod ac yn cefnogi’r cynnydd gyda’r strategaeth bioamrywiaeth.