Mater - cyfarfodydd

Public Interest report issued under s.16 of the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005

Cyfarfod: 25/05/2021 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 11)

11 Adroddiad Budd y Cyhoedd a gyhoeddir o dan adran 16 Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Cytuno prun a ddylid derbyn y darganfyddiadau ac/neu argymhellion mewn adroddiad budd y cyhoedd, a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn rhinwedd ei swydd fel Swyddog Monitro, cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr eitem a’r cefndir i Adroddiad Budd y Cyhoedd a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a oedd wedi cynnal cwyn gan gymydog eiddo a oedd wedi cael caniatâd cynllunio i’w anecs gan y Cyngor.  Roedd canfyddiadau’r Adroddiad Budd y Cyhoedd yn nodi bod y ffordd yr oedd y ceisiadau wedi’u trin gyfystyr â chamweinyddu, gan arwain at anghyfiawnder i’r achwynydd hwnnw, ac roedd yn gwneud argymhellion ar gyfer unioni’r camweinyddu.  Dywedodd y Prif Swyddog fod adroddiadau o’r fath yn bethau prin i’r Cyngor ac mai cyfrifoldeb y Cyngor oedd penderfynu a ddylid derbyn neu herio canfyddiadau ac argymhellion gan yr Ombwdsmon.

 

Er bod swyddogion yn parchu barn yr Ombwdsmon, roeddent wedi rhoi ystyriaeth ofalus a gwrthrychol i’r mater ac roeddent yn anghytuno â rhai o’r canfyddiadau hynny.  Roeddent o’r farn bod yr anecs yn sylweddol yn unol â’r polisi, ac er bod mân wyro o’r polisi, nid oedd yn ddigon sylweddol i gyfiawnhau gwrthod caniatâd cynllunio.  Felly, roeddent o’r farn y byddai’n debygol iawn y byddai’r ymgeisydd wedi bod yn llwyddiannus â’i apêl, pe bai’r Cyngor wedi gwrthod caniatâd.  Ymhellach, roedd hawliau datblygu a ganiateir yn caniatáu ar gyfer adeiladu adeilad tebyg o ran golwg, a mwy, beth bynnag.  Ar ôl cael cyngor cyfreithiol annibynnol, roedd swyddogion o’r farn, er byddai gan y Cyngor ragolygon rhesymol o lwyddo pe bai’n cyflwyno her gyfreithiol i’r canfyddiadau, byddai proses o’r fath yn arwain at gostau ac adnoddau sylweddol i’r Cyngor a’r Ombwdsmon, gan achosi difrod i’r berthynas weithio honno o bosibl a rhagor o oedi o ran dod i benderfyniad i’r achwynydd.  Ar y sail honno, argymhellwyd bod y Cyngor yn derbyn canfyddiadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Mewn cyferbyniad, roedd gan y Cyngor ddisgresiwn o ran p’un a fyddai’n derbyn argymhellion yr Ombwdsmon o ran unioni, a byddai angen sail dda i wyro o’r argymhellion hynny.  Fodd bynnag, o ystyried cred y swyddogion o ran polisi a hawliau datblygu a ganiateir, roeddent yn teimlo’n gryf bod sail dda dros argymell camau unioni gwahanol i’r rhai a gyflwynwyd gan yr Ombwdsmon.  Pe bai’r canfyddiadau’n cael eu derbyn, byddai’n rhesymol gweithredu’r ddau argymhelliad cyntaf i ymddiheuro i’r achwynydd am faint o amser a gymerwyd i’w ddatrys - roedd y Cyngor ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am hyn - ac adolygu a gydymffurfiwyd â’r amodau oedd ynghlwm wrth y caniatâd ôl-weithredol.  Argymhellodd Swyddogion fod trydydd argymhelliad yr Ombwdsmon (bod swm yn cael ei dalu i’r achwynydd sydd gyfwerth â’r gwahaniaeth yng ngwerth ei heiddo cyn ac ar ôl y datblygiad, a fyddai’n dod i £20,000) yn cael ei wrthod, ar y sail a nodir yn 3.10 yr adroddiad.  Argymhellodd Swyddogion fod y Cyngor yn talu swm o £5,000 i adlewyrchu’r amser, y drafferth a’r gofid a achoswyd i’r achwynydd.

 

Wrth gynnig cymeradwyo argymhellion y swyddog, cytunodd y Cynghorydd Chris Bithell mai hwn oedd y dull cywir, yn seiliedig ar y rhesymau a nodwyd.  Roedd y Cynghorydd David Wisinger yn siarad  ...  view the full Cofnodion text for item 11