Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking

Cyfarfod: 19/05/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 54)

54 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol er mwyn ei hystyried, yn cynnwys newidiadau ers y cyfarfod blaenorol.  Byddai dyddiadau cyfarfodydd ar gyfer blwyddyn y cyngor 2021/22 yn cael eu llenwi pan fydd y Cyngor wedi cytuno ar y Rhestr Cyfarfodydd.  Roedd yr holl gamau gweithredu a oedd yn codi o’r cyfarfodydd blaenorol wedi cael eu cwblhau.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Patrick Heesom, ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Ron Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

 (b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

 (c)      Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.