Mater - cyfarfodydd
Council Plan 2021/22
Cyfarfod: 25/05/2021 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 10)
10 Cynllun y Cyngor 2021/22 PDF 105 KB
Pwrpas: I fabwysiadu Cynllun y Cyngor 2021/22 Rhan 1 a chymeradwyo Rhan 2.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Council Plan 2021/22 Part 1, eitem 10 PDF 141 KB
- Enc. 2 - Council Plan 2021/22 Part 2, eitem 10 PDF 263 KB
- Enc. 3 - Theme alignment, eitem 10 PDF 155 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cynllun y Cyngor 2021/22
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr eitem ac eglurodd fod Cynllun y Cyngor yn cael ei gyhoeddi fel dwy ddogfen. Roedd Rhan 1 yn nodi’r bwriad. Roedd Rhan 2 yn nodi’r risgiau, mesuryddion perfformiad, targedau a cherrig milltir a ddefnyddir i fesur a gwerthuso cyflawniad. Roedd Cynllun y Cyngor wedi’i adolygu a’i adnewyddu o ran strwythur a chynnwys, ac roedd yn dal i roi ystyriaeth i adferiad parhaus yn ogystal ag amcanion strategol mwy hirdymor.
Roedd y fframwaith ar gyfer Cynllun y Cyngor y flwyddyn nesaf wedi’i adeiladu o amgylch chwe thema:
· Yr Economi;
· Addysg a Sgiliau;
· Cymdeithas Werdd a’r Amgylchedd;
· Tai Fforddiadwy a Hygyrch;
· Lles Personol a Chymunedol; a
· Thlodi.
Roedd pob un o’r chwe thema wedi’u mapio yn erbyn Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar gyfer adrodd ac atebolrwydd. Cyfrifoldeb y Cabinet oedd darparu’r Cynllun.
Roedd Cynllun y Cyngor Rhan 1 wedi’i rannu gyda Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu i’w adolygu ac er mwyn cael sylwadau. Ni fu unrhyw newid sylweddol i Ran 1 yn dilyn yr ymgynghoriad oherwydd bod y Pwyllgorau’n gefnogol.
Wrth gynnig cymeradwyo’r argymhelliad, amlygodd y Cynghorydd Ian Roberts estyniad cartref gofal Marleyfield House ac Ysgol Glanrafon. Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd Billy Mullin.
PENDERFYNWYD:
Mabwysiadu Cynllun y Cyngor 2021/22, ar argymhelliad y Cabinet.