Mater - cyfarfodydd
Highways Asset Management Plan
Cyfarfod: 18/05/2021 - Cabinet (eitem 130)
130 Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd PDF 102 KB
Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd sydd wedi’i adnewyddu.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 for Highways Asset Management Plan, eitem 130 PDF 161 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ac eglurodd mai’r rhwydwaith priffyrdd yw isadeiledd asedau mwyaf gwerthfawr y Cyngor, gydag asedau lonydd cerbydau a throedffyrdd werth dros £1 biliwn. Roedd cyflwr diogel a defnyddiadwy y rhwydwaith yn hanfodol i gynnal cysylltedd economaidd a chymdeithasol, y ddau o fewn Sir y Fflint a gyda’r rhanbarth ehangach, a roedd y fframwaith Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn darparu egwyddorion i reoli’r rhwydwaith, adnabod pwysigrwydd isadeiledd priffordd i gefnogi nifer o amcanion allweddol y Cyngor.
Rhoddodd yr adroddiad ddiweddariad ar ddatblygiad y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd y Cyngor, a roedd yn egluro sut mae’r Cyngor yn defnyddio’r egwyddorion y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd i arwain y strategaeth i reoli a chynnal isadeiledd priffyrdd.
Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod dyraniad cyllid yn cael ei wneud ar sail y meysydd sydd ei angen fwyaf, a roedd blaenoriaethau wedi newid oherwydd y risgiau i’r rhwydwaith a oedd wedi cael eu nodi yn ystod asesiadau gan gydlynwyr ardaloedd.
Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd ac Economi yr wythnos flaenorol, lle chafwyd drafodaeth ar gynllun peilot a gyflawnwyd yn defnyddio plastig wedi’i ailgylchu i gymryd lle yr ardaloedd bach o asffalt. Roedd y Pwyllgor yn gefnogol o’r treial a gwnaethpwyd gais i gael treial ehangach. Bydd gwaith yn cael ei gyflawni i adnabod unrhyw safleoedd posibl ar gyfer treialon o’r fath.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod cynnwys yr adroddiad, ac adolygiad y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn cael ei nodi;
(b) Bod y trefniadau cyfredol a chamau gweithredu’r portffolio i gynnal y rhwydwaith priffordd yn cael ei nodi; a
(c) Bod y polisi diwygiedig ar gyfer arolygon Diogelwch Priffyrdd a Meysydd Parcio, Meini Prawf Ymyrraeth ac Amseroedd Ymateb i gynnwys ymagwedd ddiwygiedig i arolygon strwythurau’r priffyrdd yn cael ei gymeradwyo.