Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2021/22

Cyfarfod: 18/05/2021 - Cabinet (eitem 131)

131 Cynllun y Cyngor 2021/22 pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Cynllun y Cyngor 2021/22 Rhan 1 a Rhan 2 yn barod i’w fabwysiadu gan y Cyngor Sir ym mis Mehefin.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd bod Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017/23 yn cael ei fabwysiadu gyda’r pwrpas o osod y prif flaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer y tymor etholiadol cyfredol.  Roedd y cynllun yn amodol i adolygiad blynyddol.

 

Roedd strwythur a chynnwys y Cynllun ar gyfer 2021/22 wedi cael ei adolygu a’i adfywio, ac yn ystyried adferiad parhaus yn ychwanegol i’r amcanion strategol hirdymor.

 

Cyhoeddwyd Cynllun y Cyngor mewn dwy ddogfen. Byddai Rhan 1 yn gosod y bwriad, a Rhan 2 yn gosod y risgiau, y mesuryddion perfformiad, y targedau a’r cerrig milltir y byddai cyflawniadau yn cael eu mesur a’u gwerthuso'n eu herbyn.

 

Cafodd y fframwaith ei greu o amgylch chwe thema:

 

·         Yr Economi;

·         Addysg a Sgiliau;

·         Cymdeithas Werdd a’r Amgylchedd;

·         Tai Fforddiadwy a Hygyrch;

·         Lles Personol a Chymunedol; a

·         Tlodi

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod datganiad strategol yn mynd gyda phob un o’r chwe thema a oedd yn arwain at amcanion llesiant. Cafodd y themâu eu mapio yn erbyn y Pwyllgorau Craffu a Throsolwg i adrodd ac atebolrwydd. Y Cabinet fydd yn gyfrifol am gyflawni’r Cynllun. Roedd Rhan 1 wedi’i rannu gyda’r Pwyllgorau Craffu a Throsolwg i’w adolygu ac i gael sylwadau; nid oedd angen newid sylweddol i Rhan 1 gan fod y Pwyllgorau yn gefnogol, Roedd Rhan 2 wedi’i gymeradwyo i’r argymell gyda hyder bod yr Aelodau yn cefnogi Rhan 1 fel uwch-strwythur y Cynllun.

 

Bydd Cynllun terfynol y Cyngor ar gael ar y wefan cyn diwedd mis Gorffennaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod Rhan 1 Cynllun y Cyngor 2021/22 yn ei ffurf terfynol yn cael ei gymeradwyo i’w argymell i’r Cyngor; a

 

 (b)      Bod cynnwys Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2021/22 yn cael ei gymeradwyo yn ychwanegol i Rhan 1 i’w argymell i’r Cyngor.