Mater - cyfarfodydd
Constitutional Issues including Committees
Cyfarfod: 25/05/2021 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 8)
8 Materion Cyfansoddiadol gan gynnwys Pwyllgorau PDF 118 KB
Pwrpas: Cymeradwyo'r trefniadau cyfansoddiadol ar gyfer y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Recovery Committee Terms of Reference, eitem 8 PDF 67 KB
- Enc. 2 - Political balance, eitem 8 PDF 46 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Materion Cyfansoddiadol gan gynnwys Pwyllgorau
Cofnodion:
Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a ddeliodd â’r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â Rheol 1.1 (vii) - (xiv) Gweithdrefn y Cyngor.
Roedd yr adroddiad yn cynnig creu Pwyllgor Adfer newydd i oruchwylio’r gwaith hanfodol o helpu’r Cyngor i adfer ar ôl effaith pandemig Covid-19. Roedd yr adroddiad hefyd yn delio â phenodi Pwyllgorau a chadeiryddion eraill a materion eraill fel dyrannu seddi, dan gydbwysedd gwleidyddol.
Cafodd yr adroddiad ei rannu'n adrannau, ac roedd pob un yn delio ag un penderfyniad oedd angen ei wneud, a’r materion perthnasol i’w hystyried. Rhoddwyd ystyriaeth i bob adran a phleidleisiwyd arnynt.
(i) Penodi Pwyllgorau
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn caniatáu penodi'r canlynol: Pwyllgor Apeliadau; Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd, Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd; Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio; Pwyllgor Cwynion; Pwyllgor Apeliadau Cwynion; Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu; Pwyllgor Cydlywodraethu (ar gyfer Pensiynau); Pwyllgor Trwyddedu; Pwyllgor Cynllunio; Pwyllgor Adfer; Pwyllgor Safonau; a’r pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.
Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts gymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Billy Mullin.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol:
Pwyllgor Apeliadau;
Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd;
Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd;
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio;
Pwyllgor Cwynion;
Pwyllgor Apeliadau Cwynion;
Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu;
Pwyllgor Cydlywodraethu (ar gyfer Pensiynau);
Pwyllgor Trwyddedu;
Pwyllgor Cynllunio;
Pwyllgor Adfer;
Pwyllgor Safonau; a’r
Pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a restrir yn yr adroddiad.
(ii) Pennu maint Pwyllgorau
Eglurodd y Prif Swyddog fod rhaid penderfynu ar faint pob Pwyllgor yn y Cyfarfod Blynyddol. Roedd y Cyngor wedi penderfynu o’r blaen y dylai’r prif Bwyllgorau fod yn ddigon mawr i bob gr?p gwleidyddol gael ei gynrychioli.
Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts gymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Billy Mullin.
PENDERFYNWYD:
Bod maint pob pwyllgor fel a nodir ym mharagraff 1.04 yr adroddiad.
(iii) Cylch Gorchwyl Pwyllgorau
Eglurodd y Prif Swyddog ei bod yn ofynnol i’r Cyfarfod Blynyddol benderfynu ar gylch gorchwyl y Pwyllgorau a benodwyd ganddo. Roedd cylch gorchwyl y Pwyllgor Adfer wedi’u hatodi i’r adroddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts gymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Billy Mullin.
PENDERFYNWYD:
Bod cylch gorchwyl pob Pwyllgor fel a nodir yn y Cyfansoddiad yn cael eu cymeradwyo.
(iv) Cydbwysedd Gwleidyddol
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod yn rhaid i’r Cyngor benderfynu yn, neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl, y Cyfarfod Blynyddol, ar ddyraniad seddi i grwpiau gwleidyddol yn unol â’r Rheolau Cydbwysedd Gwleidyddol sydd wedi eu cynnwys yn Neddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990 fel y'i diwygiwyd. Nid oedd y rheolau hynny’n berthnasol i’r Cabinet na’r Pwyllgor Safonau. Byddai’r rheolau cydbwysedd gwleidyddol yn berthnasol i’r Pwyllgor Adfer newydd.
Er mwyn cyflawni cydbwysedd gwleidyddol, bu’n angenrheidiol gwahanu’r Pwyllgorau ‘cyflogaeth’, sef y Pwyllgor Cwynion, Apeliadau Cwynion ac Ymchwilio a Disgyblu. Fel arall, byddai’r grwpiau llai dan ... view the full Cofnodion text for item 8