Mater - cyfarfodydd

Multi Systematic Therapy Project

Cyfarfod: 17/06/2021 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 7)

7 Therapi Aml Systematig pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaeth aml-asiantaeth i ddarparu cefnogaeth therapiwtig ddwys i bobl ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Dirprwy Arweinydd y Cyngor (Partneriaethau) ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol ac Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu). Roedd yr adroddiad yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaeth aml-asiantaeth i ddarparu cefnogaeth therapiwtig ddwys i bobl ifanc. Llongyfarchodd Dîm Therapi Aml Systemig Gogledd Ddwyrain Cymru oedd wedi derbyn gwobr ar gyfer “Whatever it takes” am fynd yr ail filltir y tu hwnt i’r hyn oedd yn cael ei gydnabod drwy gydol Rhaglen Therapi Aml Systemig, a chafodd ei roi i unigolion yn y gymuned Therapi Aml Systemig sydd wedi arddangos gwasanaeth rhagorol a haeddiannol.  Fe eglurodd bod y tîm wedi cynllunio, cychwyn, cyflwyno a llwyddo trwy gydol y pandemig.

            Cyflwynodd yr Uwch Reolwr yr adroddiad sydd yn rhoi trosolwg o ddull partneriaeth y tîm a dywedodd bod Gogledd Cymru wedi sicrhau cyllid LlC i edrych ar greu prosiectau partneriaeth i drawsnewid y modd mae Gwasanaethau Plant yn gweithio. Roedd yr arian yn rhanbarthol ond daeth i mewn drwy ôl troed y Bwrdd Iechyd yn lleol ar gyfer Wrecsam, Sir y Fflint a BIPBC.  Roedd y prosiect newydd dderbyn gwerthusiad dros dro gan Brifysgol Brooks Rhydychen o ran sylfaen y dystiolaeth am y gwasanaeth yma.  Yr hyn oedd yn amlwg oedd y gwaith partneriaeth cadarnhaol gyda’r adran Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ysgolion i ddarparu cefnogaeth ddwys i blant a theuluoedd oedd ar fin derbyn gofal. Roedd hyn yn galluogi cefnogaeth ddwys, ataliol er mwyn osgoi’r angen i blant dderbyn gofal a sicrhau eu bod yn gallu aros gyda’u teuluoedd. 

 

 Roedd y cyflwyniad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am:-

  • Asesiad Sylfaenol – Beth sy’n gweithio? - Nodweddion cyffredin – Amcanion
  • Pam Therapi Aml Systemig? - Yngl?n â Therapi Aml Systemig – Nod Therapydd Aml Systemig yw: 
  • Gweithredu
  • Y gefnogaeth hyd yn hyn
  • Gwerthuso – Canfyddiadau’r gwerthusiad
  • Canfyddiadau Allweddol
  • Cam 2

 

            Roedd y Cadeirydd yn credu bod hyn yn chwa o awyr iach yn enwedig y staff oedd yn gweithio bob awr o’r dydd a gofynnodd bod yr Uwch Reolwr yn rhoi gwybod iddynt bod y Pwyllgor yn canmol eu gwaith wrth gamu i’r adwy i gefnogi’r rhieni.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Mackie petai’r teuluoedd yma’n cael eu cefnogi i gyflawni newid gwirioneddol o ran rhianta, gobeithio y gallai hyn dreiddio lawr i’r genhedlaeth nesaf ac yn y blaen a oedd mor bwysig.  Roedd yn falch o ddarllen 1.08 o ran y tîm “Whatever it takes” a oedd yn gadarnhaol iawn.

 

            Cyfeiriodd at dudalen 34, y Dadansoddiad a’r paragraff olaf am Hanes Teulu, a gofynnodd a oedd yr awdurdod wedi cael pethau’n gywir yn y gorffennol tra’n gweithio gyda’r teuluoedd yma o ran ymyraethau, ac a fyddai symud i’r system newydd yma’n torri’r gylchred.  

 

             Wrth ymateb, fe eglurodd yr Uwch Reolwr bod ymddygiad rhai o’r teuluoedd roeddynt yn gweithio gyda nhw wedi’i hen sefydlu ac yn genedliadol, a gyda gwaith amddiffyn plant, roedd yn canolbwyntio meddyliau teuluoedd i greu newid.  Ar ôl i’r plant gael eu tynnu oddi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant,  ...  view the full Cofnodion text for item 7