Mater - cyfarfodydd
Safeguarding in Education
Cyfarfod: 17/06/2021 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 6)
6 Diogelu mewn Addysg PDF 107 KB
Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyflawni dyletswyddau diogelu statudol mewn ysgolion a’r portffolio addysg.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno gan yr Uwch Reolwr (Gwella Ysgolion) a rhoddodd ddiweddariad am gyflawni dyletswyddau diogelu statudol mewn ysgolion a’r portffolio Addysg gyda’r fformat yn wahanol eleni oherwydd y pandemig.
Rhoddwyd gwybodaeth yngl?n â sut mae ysgolion yn edrych ar ddiogelu a’r newidiadau yn lle Gweithdrefnau Diogelu Cymru, Canllawiau Cadw Dysgwyr yn Ddiogel a gofynion Estyn.Canmolodd y modd y mae disgyblion a staff addysgu wedi addasu i’r ffyrdd gwahanol o ddysgu, boed yn yr ystafell ddosbarth neu ar y we, gydag athrawon yn cadw cysylltiad gyda phlant a rhieni ac roedd hyn yn fater o bryder a chyfrifoldeb i ysgolion. Fe soniodd am y berthynas weithio agos gyda chydweithwyr yn y Gwasanaethau Plant a’r Gr?p Tactegol Arian a dywedodd bod gan ysgolion heriau gwahanol bob blwyddyn gyda diogelu yn y rheng flaen.
Roedd yr ymateb i Covid 19 a Deddf ADY wedi arwain at weithdrefnau newydd ar gyfer diogelu a darparwyd hyfforddiant priodol i gefnogi hyn. Fe gyfeiriodd at yr heriau gyda dysgu o bell a dysgu cyfunol gyda phlant yn gorfod cael mynediad i’r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol a chadarnhaodd y byddai adroddiad manwl yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant.
Yna rhoddodd yr Uwch Reolwr wybodaeth fanwl am Weithdrefnau Cymru oedd wedi’u diweddaru, Diweddariad am Ganllawiau i Ysgolion, hyfforddiant dros y we a chefnogaeth broffesiynol i Benaethiaid, Llywodraethwyr ac ysgolion. Fe gadarnhaodd bod Claire Sinnott wedi cydlynu hyn ac wedi darparu trosolwg o Ddiogelu yn y Panel Addysg a’i fod yn gysylltiedig gyda’r Panel Diogelu Corfforaethol. Bu’r panel yn cyfarfod yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod prosesau ar waith yn yr ysgolion, yn cael eu cefnogi, eu monitro a’u dwyn i gyfrif o ran diogelu. Nid yw hyn yn rhywbeth sefydlog ac mae’n newid yn gyson. Rhoddodd sicrwydd i Aelodau bod hyn yn cael ei herio’n gyson ac yn symud ymlaen. Canmolodd yr Uwch Reolwr (Plant a Gweithlu) y gwaith cadarnhaol rhwng ysgolion, addysg a gwasanaethau cymdeithasol gyda phlant yn y rheng flaen a chafodd hyn ei atgyfnerthu gan waith y Gr?p Tactegol Arian. Roedd yn teimlo anrhydedd i fod yn rhan ohono. Roedd y Prif Swyddog yn gwerthfawrogi cyfraniad yr Uwch Reolwr (Plant a Gweithlu) a alluogodd ymatebion cadarn i gefnogi plant a phobl ifanc diamddiffyn trwy gydol y pandemig.
Cyfeiriodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor (Partneriaethau) ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol at y gwaith a wnaed gyda’r Panel Diogelu Corfforaethol sydd yn sicrhau bod pob plentyn cael ei gefnogi ac yn derbyn y gofal gorau ond roedd hyn wedi cael ei wneud yn wahanol. Yn ystod y pandemig, roedd adran Addysg a Gofal Cymdeithasol wedi sicrhau bod pob teulu’n cael ei fonitro dros y we ac yn bersonol er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth oedd ei angen arnynt. Roedd hi’n arbennig o falch o’r modd roedd Sir y Fflint wedi ymateb i ddiogelu a bob amser yn rhagweithiol wrth ddatblygu gweithdrefnau newydd, hyfforddiant a gwaith partneriaeth gwych ar gyfer plant ... view the full Cofnodion text for item 6