Mater - cyfarfodydd

Looked After Children

Cyfarfod: 17/06/2021 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 4)

4 Plant sy'n Derbyn Gofal yn Sir y Fflint pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am Plant sy’n Derbyn Gofal.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Dilyniant) yr adroddiad ac eglurodd bod y fformat yn wahanol yn sgil lefel y data sydd ar gael. Yn yr adroddiad cafwyd drosolwg o’r gwaith a’r gefnogaeth a ddarparwyd i blant sy’n derbyn gofal yn ystod blwyddyn academaidd 2019/20 sydd wedi cael ei effeithio’n drwm gan y pandemig.

               

Rhoddodd wybodaeth am gydweithwyr sydd wedi cefnogi plant sy'n derbyn gofal, diweddariad am y nifer o blant sydd angen cymorth mewn ysgolion a’r rhai sydd angen cymorth arbenigol mewn lleoliadau y tu allan i’r sir.  Rhoddwyd gwybodaeth am y nifer o ddisgyblion a gafodd Ddatganiadau o Anghenion Addysgol Arbennig a sut mae hynny’n cymharu’n genedlaethol. Cyfeiriodd at ei gwaith gyda’r gr?p arian o fewn tîm ymateb i argyfwng sydd wedi gwella’r cydweithio rhwng Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn sicrhau bod anghenion plant sy’n derbyn gofal a phlant diamddiffyn yn cael eu hadnabod a’u cefnogi drwy’r Canolfannau Cydnerthu. Cafodd gliniaduron eu dosbarthu i’r garfan yma’n gyflym ac ynghyd â’r gefnogaeth a roddwyd gan y Cydlynydd Dysgu Plant Diamddiffyn, fe sicrhawyd bod plant yn gallu cael mynediad at addysg ar-lein.  Fe gadarnhaodd bod gwasanaethau a phrosesau mewn cysylltiad ag AAA wedi symud ar-lein yn gyflym a’u bod yn parhau i gefnogi’r garfan yma gan fod ganddynt lefel uwch o angen.

 

            Yna cyfeiriodd yr Uwch-Reolwr at Adran 1.06 yn yr adroddiad gan ddweud bod hyfforddiant yn ffocws gwirioneddol ar gyfer addysg gyda sesiynau megis Ymarfer ar Sail Trawma a Theori Anogaeth ac Ymlyniad yn cael eu darparu. Mae’r Awdurdod wedi prynu Offeryn Proffilio ac Asesu Boxall sydd yn adnabod anghenion disgyblion gan sicrhau bod y gefnogaeth yn cael ei ddarparu i’w galluogi i ddatblygu. Mae ysgolion wedi cael trwyddedau a hyfforddiant i ddefnyddio’r offeryn yma’n effeithiol. Yna cyfeiriodd yr Uwch Reolwr at y Grant Datblygu Disgyblion (GDD) a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) trwy GwE, ynghyd ag eglurhad yngl?n â sut mae ysgolion wedi gweithio mewn clystyrau i gyflwyno i ceisiadau i ymgeisio am y grant.  Fe dynnwyd sylw at ffurfiau eraill o addysg gyda’r ffocws ar les gydag amrywiaeth o gymorth gan swyddogion ar gael i blant.  Fe orffennodd drwy roi gwybodaeth am ganlyniadau disgyblion blwyddyn 11. Roedd pob un ohonynt wedi cyflawni’r hyn oedd ei angen arnynt i fwrw ymlaen â’u dyheadau.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Dave Mackie ei fod yn adroddiad diddorol iawn a gofynnodd y cwestiynau canlynol:-

 

            Yn gyntaf ym mhwynt 1.07 ar dudalen 7, roedd yn deall sut roedd yr arian yma’n cael ei wario, ond gofynnodd a oedd y ffigur yn ddigonol ac os nad ydyw, a ddylid darparu adnoddau gwell? 

 

            Yn ail, ym mhwynt 2.01 ar dudalen 8 gyda’r newidiadau yn y ddeddfwriaeth a’r cyllid yn cael ei ddyrannu lle mae’r plentyn byw, a oedd gwybodaeth ar gael am faint o blant roedd yr Awdurdod yn ei golli neu ei ennill ac a oedd y sefyllfa yr un fath yn Lloegr gan bod yr awdurdod mor agos at y ffin.

 

Gan ymateb i’r pwynt cyntaf, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr bod  ...  view the full Cofnodion text for item 4