Mater - cyfarfodydd

Additional Learning Needs (ALN) Transformation

Cyfarfod: 17/06/2021 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 5)

5 Deddf Tribiwnlys Anghenion Dysgu ac Addysg Ychwanegol (Cymru) 2018 pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun gweithredu’r Awdurdod ac unrhyw ddiweddariadau cenedlaethol / rhanbarthol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Dilyniant) yr adroddiad oedd yn cynnwys y newyddion diweddaraf am Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg Cymru. Roedd y Ddeddf yma fod i ddod i rym ym mis Medi 2020 ond cafodd ei ohirio tan fis Medi 2021. Rhoddodd wybodaeth am yr addasiadau mae LlC wedi’u gwneud o ran trawsnewid Datganiad AAA i Gynllun Datblygu Unigol a’i weithredu ar gyfer rhai Ôl-16 gyda’r ystod oedran bellach yn 0- 25 oed. Mae LlC wedi adnabod plant mewn grwpiau blwyddyn penodol sydd ag AAA a fyddai’n symud i’r system newydd ar bwynt arferol o drawsnewid gyda Datganiad AAA yn parhau yn ei le hyd nes bod y trawsnewid wedi digwydd.

 

             Roedd Paula Roberts yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu (ADY) wedi arwain Trawsnewid ADY ar gyfer Sir y Fflint gan sicrhau bod ysgolion a’r awdurdod lleol yn barod ar gyfer y newidiadau yma.Cyhoeddwyd y cod gweithredol ym mis Ebrill ac roeddynt dal yn aros am canllawiau ar gyflawni gan LlC, ond gobeithio y byddent yn eu derbyn erbyn diwedd y tymor ac roedd trafodaethau’n mynd rhagddynt ynghylch ymatebion i nifer o gwestiynau   Roedd ysgolion yn cael eu cefnogi o ran “ymarferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn” oedd yn greiddiol i hyn, ac mae Paula Roberts wedi bod yn cynnal sesiynau hyfforddi mewn cysylltiad â’r cod er mwyn sicrhau bod ysgolion yn deall beth oedd ei angen ganddynt.      

           

            Ers 1 Ionawr 2021, roedd angen i bob ysgol fod â Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol ynghyd â Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar yn y Cyngor, ac fe gadarnhaodd bod yr unigolion yma wedi dechrau gweithio. Rhoddodd yr Uwch Reolwr ddiweddariad am waith aml asiantaeth Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg oedd yn cynnwys Swyddog Arweiniol Clinigol Addysgol Dynodedig o’r Bwrdd Iechyd. Roedd gwybodaeth am y system newydd, amddiffyniad cyfreithiol i blant a chyllid grant a ddefnyddiwyd i alluogi Cydlynwyr ADY i gefnogi ysgolion wedi bod yn amhrisiadwy iddynt. Gorffennodd yr Uwch Reolwr drwy ddweud bod LlC yn ystyried hyn fel proses niwtral o ran cost ond roedd yna oblygiadau i’r awdurdod oedd wedi ymestyn lefel y swyddogion oedd eu hangen i weithredu’r ymatebion o fis Medi.    

 

            Roedd y Prif Swyddog yn ddiolchgar am waith caled yr Uwch Reolwr, yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu a’r tîm a fu’n gweithio mor galed i gefnogi ysgolion.Diolch i ymdrechion y tîm yma, roedd Sir y Fflint mewn sefyllfa gadarn o ran y Ddeddf newydd hon.

 

            Roedd Cynghorydd Mackie yn cytuno â’r Prif Swyddog a dywedodd y dylai’r pwyllgor hefyd ddiolch i’r Uwch Ymgynghorydd Dysgu am ei gwaith hi yn sicrhau bod yr awdurdod wedi cyrraedd lle mae r?an.Gofynnodd y Cynghorydd Mackie y cwestiynau canlynol:-

 

            Yn gyntaf ym mhwynt 1.03 yr adroddiad mynegodd bryderon bod LlC wedi gosod yr amserlen i’w gweithredu ond bod Awdurdodau Lleol dal yn aros am y canllawiau er mwyn cefnogi hyn. Dywedodd yr Uwch Reolwr bod LlC wedi gweithio’n galed i geisio bodloni’r dyddiad cau gyda phwysau gan ysgolion ac awdurdodau  ...  view the full Cofnodion text for item 5