Mater - cyfarfodydd
Commencement of the Socioeconomic Duty
Cyfarfod: 08/06/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 9)
9 Cychwyn y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol PDF 119 KB
Pwrpas: Diweddaru Trosolwg a Craffu ar ein parodrwydd ar gyfer cychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol adroddiad ar baratoadau'r Cyngor ar gyfer cychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Roedd hwn yn ofyniad statudol i gyrff cyhoeddus perthnasol roi sylw dyledus i'r angen i leihau anghydraddoldebau canlyniadau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol. Roedd yr adroddiad yn cael ei rannu gyda'r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu i godi ymwybyddiaeth o'r rhwymedigaethau newydd.
Rhoddodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol a'r Rheolwr Budd-daliadau gyflwyniad ar y cyd yn ymwneud â'r canlynol:
· Beth yw'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol a beth mae'n ei wneud?
· Termau allweddol
· Anghydraddoldebau canlyniadau
· Enghreifftiau o dlodi
· Dangos sylw dyledus - trywydd archwilio
· Cyflawni'r ddyletswydd - yr hyn yr ydym yn ei wneud
· Gwell canlyniadau
· Astudiaeth achos
Nod cyffredinol y ddyletswydd oedd sicrhau gwell canlyniadau i bobl sy'n dioddef anfantais economaidd-gymdeithasol trwy wrando ar yr unigolion hynny a dangos sylw dyladwy. Roedd y ddeddfwriaeth yn gysylltiedig â gwahanol ffrydiau gwaith i fynd i'r afael â thlodi a nodwyd fel un o'r blaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor. Byddai'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn arwain ar thema dlodi gyfan Cynllun y Cyngor ac yn derbyn adroddiadau rheolaidd.
Croesawodd y Cynghorydd Vicky Perfect y mentrau i fynd i’r afael â thlodi bwyd, yn enwedig y rhai sy’n helpu disgyblion yn ystod gwyliau ysgol.
Mewn ymateb i gwestiwn oddi wrth y Cynghorydd Paul Shotton, darparodd y Rheolwr Budd-daliadau wybodaeth am gymorth ariannol Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi bwyd a menter ar y cyd rhwng y Cyngor a chwmni Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf ar gynllun atgyfeirio i ddarparu cefnogaeth i deuluoedd mewn angen.
Croesawodd y Cynghorydd Patrick Heesom y gwaith sy'n cael ei wneud i reoli newidiadau cymdeithasol mewn cymdeithas.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Joe Johnson a David Evans.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi gofynion y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol; a
(b) Bod y Pwyllgor yn sicr o barodrwydd y Cyngor i gyflawni'r ddyletswydd newydd.