Mater - cyfarfodydd

Inter authority Collaboration to Manage the Supply of Aggregate Minerals in the North East Wales Sub-Region

Cyfarfod: 18/05/2021 - Cabinet (eitem 135)

135 Cydweithio rhwng awdurdodau i reoli’r cyflenwad o fwynau cydgasgledig yn Is Ranbarth Gogledd Ddwyrain Cymru pdf icon PDF 130 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth i'r fersiwn ddiwygiedig o Ddatganiad Cydweithrediad Isranbarthol Gogledd Ddwyrain Cymru ar gyfer Cynllunio Dogfen Cydran Mwynau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ac eglurodd bod yr Ail Adolygiad y Datganiad Technegol Rhanbarthol (DTRh2) yn datgan, lle nad yw awdurdodau lleol yn gallu bodloni eu cyfran ddangosol unigol i ddarparu mwynau agregau, fod angen i’r holl awdurdodau lleol o fewn yr is-ranbarth hwnnw gydweithio a chydweithredu er mwyn sicrhau bod cyfran gyffredinol yr is-ranbarth yn parhau i gael ei bodloni, i ddarparu cyflenwad cyson o fwynau agregau ar draws yr is-ranbarth.

 

            Dylid cytuno ar gydweithio rhwng awdurdodau drwy Datganiad Cydweithio Is-ranbarth a gytunwyd gan bob awdurdod lleol o fewn yr ardal Is-ranbarth, a fyddai’n cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth ar gyfer gwneud polisi Cynllun Datblygu Lleol ac ystyriaeth cynllunio deunydd mewn penderfyniadau rheoli datblygiadau gan barchu’r angen Is-Ranbarthol i gydgasglu mwynau yn yr Is-Ranbarthol Gogledd Ddwyrain Cymru.

 

            Byddai cymeradwyo’r ddogfen gan y tri awdurdod lleol yn yr is-ranbarth Gogledd Ddwyrain Cymru yn dangos bod yr awdurdodau wedi ymrwymo i gydweithio rhwng awdurdodau gan ymwneud â chyflenwad o fwynau agregau yn unol â’r ffigyrau dosrannu is-ranbarth ar gyfer tywod a cherrig mân, a cherrig wedi eu malu fel y nodir yn RTS2.

 

Cafodd ei ystyried yn y cyfarfod o’r Gr?p Strategaeth Cynllunio ar 8 Ebrill 2021 lle cafodd y SSRC drafft diwygiedig ei ardystio. Roedd ymgynghoriad wedi’i gynnal gydag awdurdodau partner sef Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam er mwyn cymeradwyo’r SSRC drafft.

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Datganiad o Gydweithio Is-Ranbarthol (Fersiwn3, Ebrill 2021 - Atodiad 2) yn cael ei gymeradwyo, a'i anfon ymlaen i Lywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gynllunio i'w ystyried fel rhan o’r Archwiliad Cyhoeddus i Gynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint; a

 

 (b)      Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) mewn perthynas a diwygiadau ansylweddol, i’r Datganiad o Gydweithio Is-Ranbarthol drafft os bydd yr angen yn codi o ganlyniad i argymhellion gan Gyngor Sir Ddinbych neu Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn dilyn cymeradwyaeth o’r adroddiad.