Mater - cyfarfodydd

Approval of Costs for new housing scheme at Park Lane, Holywell

Cyfarfod: 18/05/2021 - Cabinet (eitem 137)

137 Cymeradwyo costau ar gyfer cynllun tai newydd yn Park Lane, Treffynnon

Pwrpas:        Cymeradwyo datblygu pedwar o dai Rhent Cymdeithasol yn Park Lane, Treffynnon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ddatblygu pedwar cartref Rhent Cymdeithasol newydd yn Park Lane, Treffynnon.

 

            Roedd yr adroddiad a’r atodiadau yn nodi gwybodaeth am brynu’r eiddo, gan gynnwys y lleoliad, mathau arfaethedig o eiddo, dyluniad a chynllun a’r costau adeiladu disgwyliedig.

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo datblygu pedwar o dai Rhent Cymdeithasol yn Park Lane, Treffynnon; a

 

 (b)      Bod y defnydd o fenthyca darbodus hyd at y gwerth a nodir yn yr adroddiad (yn dibynnu ar gymeradwyaeth a dilysu terfynol) i ariannu’r datblygiad arfaethedig yn y lleoliad yn cael ei gefnogi;