Mater - cyfarfodydd

Risk Management Update

Cyfarfod: 17/11/2021 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 35)

35 Diweddariad Rheoli Risg pdf icon PDF 90 KB

I gael sicrwydd bod y fframwaith rheoli risg diweddaraf yn gynhwysfawr ac yn weithredol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i ddiweddaru’r Pwyllgor am newidiadau i’r fframwaith rheoli risg i sicrhau bod risgiau arwyddocaol yn cael eu dyrannu i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol.

 

Soniodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol am ddatblygu’r fframwaith oedd yn cynnwys adran am uwchgyfeirio risgiau a rannwyd yn flaenorol â’r Pwyllgor.  Roedd pob un o’r 37 o risgiau arwyddocaol a adroddwyd wrth y gr?p trafod Llywodraethu ac Archwilio/Trosolwg a Chraffu wedi’u cynnwys mewn rhaglenni gwaith i’r dyfodol, gyda chysylltiadau at y Pwyllgor Adfer fel y bo’n briodol.  Roedd y fframwaith yn ddogfen fyw i’w chadw a’i diweddaru a byddai’r system berfformiad newydd yn galluogi rhannu gwybodaeth am y dangosfwrdd mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

Wrth ddiolch i’r swyddogion am eu gwaith, awgrymodd Sally Ellis ragor o eglurder yn y drefn adrodd i gynnwys canlyniad yr adolygiad diweddaraf o’r risg i alluogi’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i asesu unrhyw newid ac, o bosib’, ei uwchgyfeirio.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod risgiau corfforaethol yn cael eu hadrodd wrth y Pwyllgor Adfer ac y byddai dull mwy cydlynol yn cynnwys Hwyluswyr Trosolwg a Chraffu yn helpu i ddyrannu risgiau yn unol â hynny.

 

Soniodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol am ei waith o gyda’r Pwyllgor Adfer i ddyrannu risgiau a oedd yn bennaf yn berthnasol dros y tymor hir.  Ar gais y Cadeirydd, cytunodd i geisio sicrwydd gan Hwyluswyr Trosolwg a Chraffu am eu rôl nhw yn y broses.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Allan Rainford, dywedodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol y byddai’r golofn ‘canlyniad’ yn y ddogfen yn cael ei diweddaru i egluro i ble’r oedd y risgiau’n cael eu hadrodd.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Paul Johnson y cydgyfrifoldeb ynghlwm â rheoli risg ar y Pwyllgor, Aelodau etholedig, Trosolwg a Chraffu ac uwch swyddogion.

 

Dywedodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y byddai rheoli risg yn rhan o’r rhaglen gynefino ar gyfer cyfnod nesaf y Cyngor yn dilyn yr etholiadau.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Geoff Collett a Janet Axworthy.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau bod y fframwaith rheoli risg sydd wedi’i ddiweddaru yn gynhwysol ac yn gweithio.