Mater - cyfarfodydd
Treasury Management Annual Report 2020/21 and Treasury Management Update Q1 2021/22
Cyfarfod: 28/07/2021 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 17)
Darparu adroddiad blynyddol Rheoli Trysorlys 2020/21 a'r diweddariad chwarterol cyntaf ar gyfer 2021/22.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - TM reporting cycle, eitem 17 PDF 8 KB
- Enc. 2 - TM Annual Report 2020-21, eitem 17 PDF 166 KB
- Enc. 3 - Investment portfolio as at 30-06-21, eitem 17 PDF 26 KB
- Enc. 4 - Long term borrowing as at 30-06-21, eitem 17 PDF 139 KB
- Enc. 5 - Short term borrowing as at 30-06-21, eitem 17 PDF 23 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2020/21 a’r Wybodaeth Ddiweddaraf ar Reoli’r Trysorlys yn Chwarter 1 2021/22
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr Adroddiad Blynyddol ar Reoli’r Trysorlys yn 2020/21 i’w adolygu a’i argymell i’r Cabinet. Rhannwyd diweddariad Chwarter 1 ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli'r Trysorlys 2021/22 er gwybodaeth, ynghyd â'r cylch adrodd.
Rhoddwyd trosolwg o adrannau allweddol yr Adroddiad Blynyddol gan gynnwys effaith cyfraddau llog isel parhaus. Roedd y diweddariad chwarterol cyntaf ar gyfer 2021/22 yn rhoi diweddariad ar fuddsoddiadau a gweithgaredd benthyca fel y manylir yn yr adroddiad. Ni nodwyd am unrhyw dor-amodau yn y Strategaeth Rheoli’r Trysorlys. Yn unol â threfniadau blynyddol, byddai'r holl Aelodau'n cael eu gwahodd i sesiwn hyfforddi Rheoli’r Trysorlys ym mis Rhagfyr cyn cymeradwyo'r Strategaeth ar gyfer 2021/22.
Mewn ymateb i gwestiynau gan Allan Rainford, rhoddwyd eglurhad ar gymeradwyo benthyciadau i NEW Homes yn 2018 a rhoddwyd sicrwydd o ymgysylltu ag ymgynghorwyr Rheoli’r Trysorlys cyn cymryd unrhyw fenthyciadau newydd.
Cynigiwyd yr argymhellion gan Allan Rainford a'u heilio gan y Cynghorydd Martin White.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi Adroddiad Blynyddol drafft Rheoli'r Trysorlys 2020/21, heb dynnu sylw'r Cabinet at unrhyw faterion ym mis Medi; a
(b) Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â Rheoli’r Trysorlys yn chwarter cyntaf 2021/22.