Mater - cyfarfodydd

Treasury Management Annual Report 2020/21 and Treasury Management Update Q1 2021/22

Cyfarfod: 28/07/2021 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 17)

17 Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2020/21 a’r Wybodaeth Ddiweddaraf ar Reoli’r Trysorlys yn Chwarter 1 2021/22 pdf icon PDF 109 KB

Darparu adroddiad blynyddol Rheoli Trysorlys 2020/21 a'r diweddariad chwarterol cyntaf ar gyfer 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr Adroddiad Blynyddol ar Reoli’r Trysorlys yn 2020/21 i’w adolygu a’i argymell i’r Cabinet. Rhannwyd diweddariad Chwarter 1 ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli'r Trysorlys 2021/22 er gwybodaeth, ynghyd â'r cylch adrodd.

 

Rhoddwyd trosolwg o adrannau allweddol yr Adroddiad Blynyddol gan gynnwys effaith cyfraddau llog isel parhaus. Roedd y diweddariad chwarterol cyntaf ar gyfer 2021/22 yn rhoi diweddariad ar fuddsoddiadau a gweithgaredd benthyca fel y manylir yn yr adroddiad. Ni nodwyd am unrhyw dor-amodau yn y Strategaeth Rheoli’r Trysorlys. Yn unol â threfniadau blynyddol, byddai'r holl Aelodau'n cael eu gwahodd i sesiwn hyfforddi Rheoli’r Trysorlys ym mis Rhagfyr cyn cymeradwyo'r Strategaeth ar gyfer 2021/22.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan Allan Rainford, rhoddwyd eglurhad ar gymeradwyo benthyciadau i NEW Homes yn 2018 a rhoddwyd sicrwydd o ymgysylltu ag ymgynghorwyr Rheoli’r Trysorlys cyn cymryd unrhyw fenthyciadau newydd.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan Allan Rainford a'u heilio gan y Cynghorydd Martin White.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi Adroddiad Blynyddol drafft Rheoli'r Trysorlys 2020/21, heb dynnu sylw'r Cabinet at unrhyw faterion ym mis Medi; a

 

 (b)      Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â Rheoli’r Trysorlys yn chwarter cyntaf 2021/22.