Mater - cyfarfodydd
Approval of Costs for new housing scheme at Duke Street, Flint
Cyfarfod: 20/04/2021 - Cabinet (eitem 125)
Cymeradwyo costau ar gyfer cynllun tai newydd yn Duke Street, Y Fflint
Pwrpas: Cymeradwyo datblygu dau gartref rhent cymdeithasol yn Duke Street Y Fflint.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (125/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (125/3)
- Gweddarllediad ar gyfer Cymeradwyo costau ar gyfer cynllun tai newydd yn Duke Street, Y Fflint
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ddatblygu dau gartref Rhent Cymdeithasol newydd yn Duke Street, Y Fflint.
Roedd yr adroddiad a’r atodiadau yn darparu gwybodaeth fanwl am y cynllun arfaethedig, gan gynnwys lleoliad, y mathau o eiddo y bwriedir eu hadeiladu, dyluniad, gosodiad a'r costau adeiladu rhagamcanol.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo datblygu dau gartref Rhent Cymdeithasol newydd yn Duke Street, Y Fflint; a
(b) Cymeradwyo’r benthyca darbodus gofynnol (fel y’i amlinellir yn yr adroddiad)(yn amodol ar gymeradwyaeth a gwiriad terfynol) er mwyn ariannu’r datblygiad arfaethedig yn Duke Street, Y Fflint.