Mater - cyfarfodydd

Commencement of the Socio-economic Duty

Cyfarfod: 01/07/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 11)

11 Cychwyn y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:        Diweddaru Trosolwg a Craffu ar ein parodrwydd ar gyfer cychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol a’r Rheolwr Budd-Daliadau yr adroddiad ar baratoadau’r Cyngor ar gyfer dechrau’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.Mae rhoi sylw dyledus i’r angen i leihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau yn sgil anfantais economaidd-gymdeithasol yn ofyniad statudol ar gyrff cyhoeddus perthnasol.

 

Darparodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol a’r Rheolwr Budd-daliadau gyflwyniad ar y cyd yn ymdrin â’r canlynol:

 

·         Beth yw’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol a beth mae’n ei wneud?

·         Telerau allweddol

·         Anghydraddoldebau canlyniadau

·         Enghreifftiau o dlodi

·         Dangos sylw dyledus – trywydd archwilio

·         Cyflawni’r ddyletswydd – beth ydym ni’n ei wneud

·         Canlyniadau gwell

·         Astudiaeth achos

 

Darparodd y cyflwyniad enghreifftiau ehangach o dlodi sy’n cyd-fynd ag un o flaenoriaethau Cynllun y Cyngor.Mae’r adroddiad yn cael ei rannu gyda’r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu i godi ymwybyddiaeth o’r ymrwymiadau newydd.Ymysg y camau gweithredu, byddai cynnwys canlyniadau Asesiad o Effaith Integredig ar adroddiadau pwyllgor yn gymorth i ddangos ystyriaeth o effeithiau posibl tlodi wrth wneud penderfyniadau strategol.

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at y Portffolio Addysg a’r agwedd tlodi bwyd, a bod prydau ysgol am ddim yn gymorth i fynd i’r afael â hyn.Mae tlodi digidol wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar, gyda dysgu o bell a dysgu cyfunol a dyfeisiau’n cael eu darparu i wneud yn si?r bod plant yn gallu parhau i ddysgu.Gofynnodd a oes ffordd arall y gall addysg ac ysgolion gynorthwyo gyda’r agwedd hwn ar dlodi.Mewn ymateb, dywedodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol y dylid ystyried tlodi a’r plant a’r teuluoedd a effeithir arnynt wrth godi ysgolion newydd neu gynllunio strategaethau newydd.Hefyd, dylid sicrhau bod yr holl wybodaeth yn cael ei darparu i helpu teuluoedd dderbyn y cymorth a’r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.

 

            Ychwanegodd yr Uwch-Reolwr fod tlodi yn uchel ar raglen y Portffolio Addysg, gyda’r Prif Swyddog yn arwain y gwaith.Mae ysgolion eisoes yn edrych ar anghenion eu dysgwyr a’u teuluoedd ac yn darparu cymorth. Dywedodd fod cynhwysiant digidol yn rhan o’r Strategaeth Ddigidol, gyda thema newydd Dysgu a Diwylliant i ddatblygu hyn ymhellach. Mae’r Portffolio Addysg yn croesawu’r fframwaith i agor trafodaeth ehangach i gefnogi anghenion dysgwyr a theuluoedd.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Cunningham i’r swyddogion am y cyflwyniad a dywedodd fod tlodi wedi gwaethygu oherwydd y pandemig.Dywedodd fod tlodi yn effeithio ar amrywiaeth o bobl ond ei fod yn braf clywed fod y Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i leddfu problemau.

 

Cafodd yr argymhellion, fel y nodir yn yr adroddiad, eu cynnig a’u heilio gan Mrs Lynne Bartlett a’r Cynghorydd Paul Cunningham.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Nodi gofynion y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol; a

 

(b)          Bod y Pwyllgor wedi derbyn sicrwydd bod y Cyngor yn barod i gyflawni’r ddyletswydd newydd.